Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i'r Gweinidog Addysg ddatgan y bydd ehangu ar waith y Coleg Cymraeg wedi cyhoeddiad prynhawn yma bydd toriadau llai i'r sector addysg uwch na'r disgwyl.
Mewn datganiad yn y siambr prynhawn yma, dywedodd y Gweinidog Cyllid y byddai toriadau llai i'r Cyngor Cyllido na'r hyn gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft. Mewn llythyron at y pedair plaid yn y Cynulliad cyn y Nadolig, galwodd Cymdeithas yr Iaith am gamau i sicrhau twf a datblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mewn cyfarfod diweddar rhwng y mudiad iaith a'r Prif Weinidog, dywedodd Carwyn Jones ei fod: "moyn gweld [gwaith y Coleg] yn parhau [ac yn] tyfu".
Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg, medd Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym yn falch bod y gyllideb derfynol yn ceisio gwneud mwy i ddiogelu cyllideb prifysgolion. Mewn cyfarfod diweddar gyda'r Prif Weinidog, buodd o'n gwbl glir i ni ei fod yn gwbl ymrwymedig i'r sefydliad ac am weld gwaith y Coleg yn parhau ac yn tyfu. Gofynnwn i chi felly sicrhau bod eich llythyr cylch gwaith i'r Cyngor Cyllido yn sicrhau bod adnoddau ychwanegol er mwyn ehangu gwaith y Coleg. Wedi'r cwbl, mae'r Coleg yn sefydliad allweddol bwysig o ran gwireddu'r hawl i astudio'n Gymraeg ym maes addysg uwch - a gobeithiwn y gall hefyd wneud hynny'n gynyddol ym maes addysg bellach dros y blynyddoedd i ddod.
"Nid yw'r Coleg yn chwaraewr bach arall ym marchnad addysg uwch yn ddibynnol ar fympwy'r Cyngor Cyllido. Yn hytrach galwn arnoch chi i ddatblygu rôl y Coleg i fod yn sefydliad blaengar fydd yn cyfuno addysg uwch ac addysg bellach er mwyn gwir wasanaethu anghenion Cymry ifainc trwy gyfrwng y Gymraeg"
Stori yn y wasg: