Ymgais y BBC i draflyncu S4C - datgelu cytundebau cyfrinachedd

Mae mudiad iaith wedi cyhuddo'r BBC o symud ymlaen gyda'i ymdrechion i draflyncu S4C yn dilyn dogfennau a ddatgelwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth.

Mae'r dogfennau yn dangos y bydd y BBC yn rheoli technoleg S4C yn ei swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon yn ogystal â throsglwyddo signal y sianel o'i swyddfa yng Nghaerdydd.

Dywedodd Aled Powell, Cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'r fargen gyfrinachol yma yn rhan o ymgais y BBC i draflyncu S4C, gyda chefnogaeth y Torïaid yn Llundain. Fydd na ddim S4C annibynnol ar ôl i siarad amdani os ydyn nhw'n cael eu ffordd. Er eu bod yn gwrthod rhyddhau'r manylion y 'cytundeb gwasanaethau technegol' sy'n para am saith mlynedd, mae'n ymddangos fel bod y gorfforaeth wedi mynnu pris uchel iawn am ddarparu gwasanaeth i drosglwyddo signal y sianel.

"Mae Bwrdd Bradychu Cymru eisiau adeiladu ei ymerodraeth yn bellach er eu bod yn dominyddu'r cyfryngau yng Nghymru bron â bod yn gyfan gwbl yn barod. O dan y cynlluniau, mae dros hanner staff S4C yn mynd i fod yn gweithio o swyddfa'r BBC yng Nghaerdydd, bydd y BBC yn darlledu signal teledu S4C, mae rhaglenni S4C ar yr I-player, ac mae'r gorfforaeth wedi dwyn allbwn drama S4C. Nawr rydyn ni'n darganfod eu bod nhw eisiau rheoli ffonau a thechnoleg arall ym Mhencadlys S4C yng Nghaerfyrddin a'i swyddfa yng Nghaernarfon. Ble mae diwedd y daith? Gyda'r BBC yn rheoli pob dim os nad oes rhywbeth radical yn digwydd.

"Dylid canslo'r cytundeb 'partneriaeth' bondigrybwyll hwn a'r cyd-leoli yng Nghaerdydd yn syth, dyna un ffordd o atal y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig rhag cael rheolaeth lwyr dros ein hunig sianel deledu Gymraeg."

Ychwanegodd:  

"Ble mae hyn oll yn gadael adolygiad Euryn Ogwen o'r sianel? Mae'r BBC yn ei drin yn amherthnasol drwy fynnu mwy a mwy o reolaeth dros ein hunig sianel Gymraeg drwy gytundebau dirgel. Maen nhw'n tanseilio'r adolygiad. Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru. Dyna'r ffordd i adfer plwraliaeth yn ein cyfryngau Cymraeg a Chymreig.

Y cais rhyddid gwybodaeth:

[Dogfen 1]; [Dogfen 2]; [Dogfen 3]; [Dogfen 4]; [Dogfen 5]; [Dogfen 6]; [Dogfen 7]