
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu datganiad gan Leanne Wood heddiw ynghylch symud tuag at gynnig addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Yn ystod araith yr arweinydd yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru, cyhoeddodd Leanne Wood y byddai Llywodraeth Plaid Cymru ar ôl etholiadau 2016 yn dileu ‘Cymraeg ail iaith’ ac yn lle hynny, symud tuag at drefn o addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.
Meddai llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone: “Mae cytundeb cyffredinol bellach bod y gyfundrefn Cymraeg ail iaith yn methu ein pobl ifanc. Dylai fod hawl gan ein holl bobl ifanc i ddysgu, byw a gweithio drwy’r Gymraeg. Yr unig ffordd o sicrhau hynny yw cynnig addysg Gymraeg i bawb. Rydyn ni’n falch o glywed felly am y datganiad cadarnhaol yma gan arweinydd Plaid Cymru, ac yn edrych ymlaen at glywed pleidiau eraill yn datgan eu cefnogaeth i roi addysg Gymraeg i bawb yng Nghymru”.