Anrheg Penblwydd Chris Patten i S4C?

Cafwyd ple gan ymgyrchwyr iaith heddiw ar i bennaeth y BBC adfer annibyniaeth S4C fel anrheg arbennig ar ben-blwydd y darlledwr yn 30 mlwydd oed.

Mewn llythyr at yr Arglwydd Ceidwadol Chris Patten, sydd hefyd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw arno i newid telerau’r berthynas arfaethedig rhwng y ddau ddarlledwr er mwyn nodi’r achlysur arbennig. Yn yr ohebiaeth, mae’r mudiad yn amlygu nifer o gymalau yn y cytundeb gweithredu drafft rhwng S4C a’r BBC a fydd yn peryglu dyfodol S4C, megis:

  • Yr hawl i’r BBC gwtogi ar gyllideb S4C os nad ydynt fodlon gyda'i gweithredoedd
  • Dim sôn am effaith iaith S4C ar y Gymraeg a’i chymunedau
  • Ymgais i atal S4C rhag siarad allan yn gyhoeddus yn erbyn unrhyw newidiadau eraill i’w chyllido neu reolaeth

Fel rhan o’u hymateb i'r ymgynghoriad, noda Cymdeithas yr Iaith: “Ni ddylai fod hawl gan y BBC i gwtogi ar gyllideb S4C o dan unrhyw amgylchiadau ... [dyna] prif wendid y cytundeb sef ei fod yn ceisio rhoi’r llaw uchaf, a’r gair olaf, i’r BBC yn y berthynas rhwng y ddau
ddarlledwr.”

Dywed llythyr Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg at Chris Patten:

“Yn hytrach na sefyll lan dros Gymru, y Gymraeg a buddsoddi yn ein cymunedau mae'r BBC wedi bod yn brysur yn edrych ar ôl ei fuddiannau ei hun. Ond mae adeg pen-blwydd yn wahanol ac yn arbennig. Mae'n amser i’r BBC ddangos tamaid bach o ysbryd haelioni diwrnod pen-blwydd. Mae troi 30 fel arfer yn cael ei ddathlu gydag anrhegion, cyfarchion a dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol, felly gobeithiwn y byddwch chi’n fodlon cydnabod y pen-blwydd arbennig hwn gydag anrheg arbennig a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus. Gofynnwn felly i chi ollwng y cymalau yn y cytundeb drafft sy’n golygu rhagor o doriadau i’w chyllideb, sydd yn rhoi goruchafiaeth i’r BBC dros S4C a’r ymgais i’w thawelu yn gyhoeddus. Mae angen hefyd unioni’r diffyg sôn am effaith iaith y sianel."

Ychwanegodd Bethan Williams bod y diffyg sôn am effaith y darlledwr ar yr iaith Gymraeg yn y cytundeb gweithredu yn peri pryder i'r mudiad iaith:

“Un o brif wendidau eraill y ddogfen yw’r diffyg cydnabyddiaeth o effaith y sianel ar yr iaith Gymraeg a’i chymunedau. Gan mai am reswm ieithyddol y sefydlwyd y sianel, credwn fod methu sôn am effaith iaith y sianel fel ei phrif bwrpas yn amlygu’r ffaith bod y BBC ac S4C wedi colli golwg ar y rheswm sefydlwyd y sianel yn y lle cyntaf. Teimlwn yn gryf na ellid asesu ‘gwerth am arian’ S4C yn yr un modd ag unrhyw sianel arall gan fod pwrpas y sianel yn un ieithyddol benodol. Nid oes sôn ychwaith am iaith weinyddiaeth fewnol y sianel - dylai fod cymal sydd yn sicrhau mai’r
Gymraeg fydd iaith weinyddiaeth fewnol S4C.

“Rydym wedi dweud o'r dechrau nad partneriaeth yw hon – fod yr holl beth wedi
ei orfodi ar S4C, a bod y BBC wedi gweld cyfle i gyfyngu ar ei thoriadau ei hun. Mae nifer o gymalau yn y cytundeb hwn sydd yn cadarnhau hynny, ac a fyddai yn sicrhau mai'r BBC fyddai a'r llaw uchaf. Rydym wedi cyflwyno ein safbwynt bellach ac yn gobeithio y bydd Awdurdod S4C yn mynnu gwell dêl iddi hi ei hun ac y bydd y BBC yn rhoi ystyriaeth i'n galwadau.”

Cytundeb Gweithredu Drafft rhwng S4C a’r BBC:

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymgynghoriad