Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lambastio ymateb Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, i ddeiseb Cymdeithas yr Iaith mewn dadl ddoe (17 Mawrth) yn y Senedd.
Mewn ymateb i alwadau’r ddeiseb, sy’n galw am roi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai, awgrymodd y Gweinidog nad yw’r argyfwng tai “yn broblem sydd yn genedlaethol…[a’i] bod hi yn nodweddiadol yn lleol”, gan ychwaengu “bod rhagor sydd angen ei wneud, ac rwy’n siŵr y byddem ni gyd eisiau edrych dros hyn yn nhymor nesa’r Senedd”.
Dywedodd cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Elin Hywel:
"Mae ymateb y Gwenidog yn dangos nad yw’r Llywodraeth o ddifri o ran sicrhau fod gan ein cymunedau reolaeth o'u marchnad tai a’r gallu i sicrhau budd i'w cymunedau - mae’n gwbl annigonol. Yr unig beth wnaeth y Gweinidog oedd cyfeirio at y posibilrwydd y gall newidiadau i ddedfau cynllunio sylfaenol fod yn rhan o raglen waith y llywodraeth nesaf. Nid yw hyn yn ddigon da: mae angen gweithredu brys rŵan i daclo’r argyfwng tai, yn enwedig wrth inni nesáu at dymor yr haf.
“Wrth awgrymu mai problem i rai ardaloedd yng Nghymru yn unig ydi'r argyfwng tai, mae'r Gwenidog yn tanddatgan difrifoldeb yr argyfwng. Boed hyny drwy anwybodaeth neu ddiffyg arweinyddiaeth, nid yw hyn yn gywir: mae'n argyfwng cenedlaethol. Mae'r argyfwng tai yn amlygu ei hun yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd, ond mae'n bodoli ar draws Cymru. Ac mae natur y broblem - marchnad agored sy'n blaenoriaethu cyfalaf yn hytrach na chartrefi - yn golygu fod angen ymyrraeth genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar frys er mwyn taclo'r argyfwng. Heb ymyrraeth genedlaethol o’r fath hon ar ran pobl Cymru, does dim ffordd y gallwn unioni’r argyfwng.”
Ychwanegodd:
“Bydd ein sylw'n awr yn troi at Rali Tryweryn ‘Nid yw Cymru ar Werth’ a gynhelir ar Argae Tryweryn, ddydd Sadwrn y 10fed o Orffennaf, yn her i'r llywodraeth nesaf gyflwyno Deddf Eiddo fel blaenoriaeth. Rydyn ni wedi cyhoeddi y bydd Delyth Jewell a Dafydd Iwan yn annerch y rali, ac y bydd cannoedd o gefnogwyr - yn amodol ar reolau Cofid - yn ffurfio rhes ar draws yr argae yn symbol o'n penderfyniad i atal chwalfa ein cymunedau."
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian, yn ystod y ddadl fod “llawer iawn o fy ngwaith achos i yn ymwneud â phobl leol yn byw mewn tai a fflatiau anaddas a thamp, mewn tai lle mae yno ormod o bobl, teuluoedd ifanc yn gorfod rhannu cartrefi eu rhieni, a rhai, wrth gwrs, ar y stryd”, gan ychwanegu:
“Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud hyn: 'Nid yw'r farchnad agored yn gweithio er budd cymunedau Cymru, a dyma sydd wrth wraidd yr argyfwng. Yr unig fodd y gallwn ddatrys y broblem, mewn gwirionedd, fydd drwy ddeddfu i drawsnewid polisi tai fel ei fod yn blaenoriaethu cartrefi nid cyfalaf.' Cymdeithas yr Iaith sydd yn dweud hynny, a dwi'n cytuno.”