Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, i fynegi ein pryder difrifol ynglŷn â’r bil ar gyfer y cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru, fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan.
Mae’r Bil yn ei ffurf bresennol yn gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r cwricwlwm ym mhob ysgol a lleoliad addysg, ac yn cynnwys cymal fydd yn golygu bod y Gymraeg a'r Saesneg yn orfodol yn ddiofyn, ond yn galluogi cyrff llywodraethu ysgolion i ‘optio allan’ fesul un o wneud Saesneg yn orfodol cyn 7 oed yn eu hysgol nhw. Bydd hyn yn cael effaith drychinebus ar addysg Gymraeg ledled y wlad ac yn gwreiddio’r syniad mai Saesneg yw’r ‘norm’.
Mae’r cynigion yn dangos diffyg dealltwriaeth o ddulliau trochi, sydd mor allweddol i lwyddiant addysg Gymraeg, ac yn peryglu eu parhad ar draws y wlad. Mae’n golygu y byddai modd newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy cyrff llywodraethu. O ganlyniad, bydd yn rhwystro unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i dyfu addysg Gymraeg. Os ydym o ddifri am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr, mae angen cynnydd sylweddol mewn addysg Gymraeg, gan symud at ddysgu’r Gymraeg ar un continwwm a Chymreigio ysgolion ar draws y wlad. Bydd y cynnig hwn yn rhwystro hynny rhag digwydd.
Byddai gwneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth yn cael effaith negyddol ar ethos ac arferion lleoliadau addysg lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm fel cyfrwng dysgu a chyfathrebu. Nid yw cadw Saesneg yn y ddeddf fel gofyniad cyffredinol ond gwneud eithriad ar gyfer y sector 'Cymraeg' yn ddigonol. O ystyried polisi’r Llywodraeth i ysgolion symud i fyny'r continwwm ieithyddol i ddarparu mwy o addysg cyfrwng Cymraeg, nid eithriad ar gyfer rhai ysgolion sydd angen ond tynnu Saesneg yn llwyr o'r ddeddfwriaeth.
Mewn cyfarfod gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan AS, yn gynharach yr wythnos hon, cadarnhaodd y Gweinidog mai dyma oedd cynlluniau’r Llywodraeth, gan ddweud wrthym “pe na byddai’r Saesneg yn orfodol yn y Bil, a dim ond y Gymraeg, byddai ffỳs mawr gan yr 80% o’r boblogaeth sydd ddim yn siarad Cymraeg.”
Ni roddwyd unrhyw reswm arall dros y penderfyniad, a chawsom ein syfrdanu mai hyn oedd y cyfiawnhad. Mae’n dangos diffyg dealltwriaeth o ddulliau dysgu ieithoedd lleiafrifol, statws y Gymraeg o gymharu â’r Saesneg ac agwedd hynod nawddoglyd tuag at bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Wedi degawdau o ymgyrchu a siarad â phobl ledled Cymru o bob cefndir, rydym yn gwybod bod y mwyafrif llethol yn gefnogol i'r Gymraeg, ac eisiau gweld ein plant i gyd yn tyfu i fyny yn ei siarad. Rydym hefyd yn gwybod drwy gais Rhyddid Gwybodaeth nad oedd yr un sefydliad, arbenigwr nac aelod o'r cyhoedd wedi argymell na gofyn am wneud Saesneg yn orfodol. Felly pwy yw’r aelodau chwedlonol o’r cyhoedd a fyddai’n gwneud ‘ffỳs mawr’? Fel erioed, mae bwgan y person nad yw'n medru’r Gymraeg yn fwch dihangol defnyddiol i wleidyddion sy’n amharod i sefyll dros eu hegwyddorion, neu sydd ddim wir yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.
Nid torf unffurf yw pobl nad ydynt (eto) yn rhugl eu Cymraeg, heb ddim dealltwriaeth, addysg nac ymwybyddiaeth o'r Gymraeg. Mae'n destun pryder mawr bod gwleidyddion yn eu trin felly, fel y gwelsom gyda'r penderfyniad gan wleidyddion ar draws y Senedd i wrthwynebu'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer enw uniaith Gymraeg gan eu bod yn ôl pob golwg yn meddwl bod y bobl maent yn cael eu talu i’w cynrychioli yn methu ynganu neu’n methu deall gair a oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio'n eang.
Mae yna leiafrif rhagfarnllyd, wrth gwrs, sy'n gwrthwynebu'r Gymraeg — ond dyna ydyn nhw, lleiafrif. A pham ddylai eu rhagfarn nhw gyfarwyddo polisi cyhoeddus ar fater fydd yn effeithio ar brofiadau addysgol cenhedlaeth o blant a phobl ifanc?
Yn ymarferol, nid oes angen gorfodaeth ddeddfwriaethol i sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn Saesneg. Mae Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion, ac mae sicrwydd am hynny ym maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu y cwricwlwm newydd, heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol. Ymhellach, yn y cyd-destun ieithyddol sydd ohoni, mae plant Cymru’n mynd i gaffael Saesneg oherwydd ei bod yn iaith mor rymus ac yn hollbresennol ym mywydau pawb yn y wlad.
Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud bod y Bil ‘yn trin Saesneg a Chymraeg yn union yr un fath', ond mae hynny'n dangos camddealltwriaeth sylfaenol o wahanol sefyllfaoedd y ddwy iaith — dydyn nhw ddim ar sail gyfartal ac ni fyddai unrhyw ddeddfwriaeth synhwyrol yn eu trin fel petaen nhw. Mae'n glir mai'r Gymraeg, ac addysg Gymraeg yn benodol, sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg.
Nid yw'r Llywodraeth wedi cynnig unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau'r cynnig hwn nad oedd yn rhan o argymhellion yr Athro Donaldson ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae hynny'n wahanol iawn i weddill y cwricwlwm, sydd i fod yn seiliedig ar dystiolaeth arbenigwyr ac eraill. Nid yw’r Llywodraeth chwaith wedi gallu darparu unrhyw gyfiawnhad cyfreithiol, a phan ofynnwyd iddynt wneud hynny, cyfeirion nhw at ddeddfwriaeth sydd naill ai'n amherthnasol neu sydd ddim yn berthnasol i’r Llywodraeth. Yn dilyn sylwadau Gweinidog y Gymraeg, ymddengys mai penderfyniad gwleidyddol yn unig yw hwn. Llunio polisi ar sail tystiolaeth yn wir!
Bydd y Bil yn ei ffurf bresennol yn tanseilio addysg Gymraeg ar draws y wlad ac yn mynd yn groes i ymrwymiadau’r Llywodraeth i addysg Gymraeg i bawb a miliwn o siaradwyr. Oni bai ei fod yn cael ei newid, bydd y Bil hwn yn ei gwneud yn amhosibl gwireddu'r nodau hynny.
Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn gyfle hanesyddol i sefydlu cwricwlwm fydd am y tro cyntaf yn ateb anghenion Cymru a chreu system addysg fydd yn sicrhau nad oes yr un plentyn yn colli allan ar yr etifeddiaeth sy’n hawl iddynt ‒ ein hiaith genedlaethol unigryw ni.
Rydym yn erfyn ar y Llywodraeth i beidio â cholli’r cyfle hwn.
Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith
Galwch ar y Llywodraeth i newid eu cynlluniau fan hyn