Cyhuddo’r Llywodraeth o ‘fychanu cymunedau Cymru’ ar ail gartrefi

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o “fychanu cymunedau Cymru” yn eu dogfen ymgynghorol newydd ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar.

Mae ymgynghoriad y Llywodraeth, a gyhoeddwyd heddiw (25 Awst), yn “ystyried newidiadau posibl i drethi lleol er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar yn eu hardaloedd”. 

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai “dim ond ceisio barn ar gwestiynau penagored mae’r ymgynghoriad, yn lle gosod allan y camau clir, pendant a radical sydd eu hangen”, ac mae’r Gymdeithas yn galw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif drwy osod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned, fel rhan o “gyflwyno pecyn radical o fesurau, a gwneud hyn fel mater o frys”. Mae’r mudiad iaith hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch rhagair yr ymgynghoriad, sy’n honni: Er nad yw'n broblem i Gymru gyfan, mae nifer yr ail gartrefi a'r llety gwyliau wedi ennyn teimladau cryf mewn rhannau o Gymru”  honiad y mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei alw’n “nawddoglyd”

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, Elin Hywel:
 

“Mae’n ddigalon gweld fod Llywodraeth Cymru yn dewis israddio argyfwng tai ledled Cymru drwy gyfyngu ar ei diffiniad o effaith daearyddol a dioddefwyr yr argyfwng. Nid testun sylw a thrafodaeth yw’r argyfwng tai ond bygythiad i allu miloedd o ddinasyddion Cymru i sefydlu cartref. Mae teimlad fod y Llywodraeth yn parhau i gymryd effeithiau’r argyfwng yn ysgafn. Dim ond ceisio barn ar gwestiynau penagored mae’r ymgynghoriad hwn, yn lle amlinellu’r camau clir, pendant a radical sydd eu hangen.

“Wrth honni’n nawddoglyd fod fod yr argyfwng yn ‘ennyn teimladau cryf’, mae ymgynghoriad y Llywodraeth yn bychanu cymunedau Cymru drwy israddio difrifioldeb yr aryfwng. Mae pobl gyffredin ar draws Cymru’n teimlo’n gynyddol anobeithiol ac yn crefu ar eu Llywodraeth i’w gwarchod rhag effeithiau’r farchnad agored sy’n chwalu eu cymunedau a’u cyfleoedd nhw i gael cartref. Nid mater haniaethol yw’r argyfwng tai, ond yn hytrach, anghyfiawnder sy’n cael effaith uniongyrchol ar bob agwedd o fywyd dyddiol.

Yn dilyn rali lwyddiannus Cymdeithas yr Iaith ar argae Tryweryn, mae’r mudiad iaith wedi trefnu ail rali, y tro hwn ar risiau’r Senedd (Tachwedd 13). 

Ychwanegodd Elin Hywel:

“Os ydy’r Llywodraeth o ddifrif o ran taclo’r argyfwng tai ar hyd a lled Cymru, mae angen iddyn nhw gyflwyno pecyn radical o fesurau, a gwneud hyn fel mater o frys. Yn ogystal â gweithredu ar y cynigion ymgynhorol yma, rhaid gosod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned, rheoleiddio AirBnB a chyflwyno trethi newydd ar dwristiaeth, elw landlordiaid, ac ail dai, gan fuddsoddi’r arian mewn dod â thai gweigion ac ail dai yn ôl i ddefnydd pobl leol. Rydan ni hefyd yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai a’r broses gynllunio, newid y diffiniad o dai fforddiadwy, rheoli prisiau tai a rhent a rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad.

“Mae gennyn ni’r atebion, yr hyn sydd ei angen yw ewyllys wleidyddol. Byddwn yn annog unhryw un sy’n cytuno i ymuno â ni ar risiau’r Senedd ar 13 Tachwedd er mwyn gyrru neges glir i’r Llywodraeth: ‘Nid yw Cymru ar Werth.’”

Bydd modd ymateb i’r ymgynghoriad tan 17 Tachwedd.