Dadansoddi'r Cyfrifiad: Toni Schiavone

Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos na chyflawnwyd dau o brif amcanion Iaith Pawb (2003): bu gostyngiad nid yn unig yn y canran o siaradwyr Cymraeg o 21% i 19%, ond hefyd yn y nifer o wardiau gyda thros 70% yn medru'r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 2,000 i 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn.

Mae angen cynllun brys mewn lle er mwyn adfer hyder pobl Cymru yng ngallu Llywodraeth Cymru i ddiogelu ac i adfywio'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru. Y cam cyntaf yw cydnabod yr argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg yng nghymunedau Cymru.

Cred Cymdeithas yr Iaith fod modd newid tynged y Gymraeg gydag ewyllys gwleidyddol ac ymgyrchu cadarnhaol a chyfranogol. Mae'r “Maniffesto Byw” yn amlinellu 26 o argymhellion ar sut y gellir diogelu'r Gymraeg fel iaith y gymuned. Mae'r angen i ddatblygu cymunedau cynaliadwy yn greiddiol i’r Maniffesto – ac mae hynny’n cynnwys sicrhau nad yw penderfyniadau cynllunio, ar unrhyw lefel, yn tanseilio’r Gymraeg. Rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i unrhyw benderfyniad cynllunio a wneir.

Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi cylchlythyr 5/88. Ar ôl cyfnod hir o ymgyrchu gan y Gymdeithas i sicrhau statws cynllunio i’r Gymraeg, roedd y cylchlythyr yma yn rhoi’r grym i awdurdodau cynnwys y Gymraeg fel ‘ystyriaeth berthnasol’ wrth ymateb i geisiadau cynllunio ac wrth baratoi cynlluniau lleol. Yn sgil hyn gwrthodwyd datblygiad o 18 o dai yn Llanrhaeadr ger Dinbych.

Pum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2003, cyhoeddwyd ‘Iaith Pawb’ lle nodwyd bod Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymo i “adolygu effeithiolrwydd y ffordd y gweithredir ei pholisïau cynllunio mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.” Yn dilyn hyn cafwyd prosiect ymchwil ar y cyd ag awdurdodau lleol gyda’r nod o lunio polisi cynllunio cenedlaethol yn ymwneud a chynllunio a’r iaith Gymraeg. Wyth mlynedd yn ôl, yn 2005, cyhoeddwyd y ddogfen “Cynllunio a’r Iaith Gymraeg.” Beth ddigwyddodd yn sgil hynny?

Yn ‘Iaith Byw: Iaith Fyw’ nodwyd y bwriad i adolygu ac ailddosbarthu Nodyn Cyngor Technegol 20 sydd yn ymwneud â’r iaith Gymraeg ym maes cynllunio. Daeth yr ymgynghoriad yma i ben ym mis Mehefin 2011 ond parhau mae’r disgwyl am y cyhoeddiad a’r arweiniad i gynghorau cynllunio. Pam yr oedi? Yn y cyfamser, mae pob awdurdod lleol wedi llunio, neu, yn y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, datgelodd y Gymdeithas mai dim ond tri awdurdod lleol sydd wedi cynnal asesiad o effaith datblygiadau cynllunio ar y Gymraeg yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Dim ond 16 asesiad iaith a wnaed o blith 60,000 o geisiadau cynllunio. Dyma fethiant polisi o’r radd flaenaf. Dros y chwarter canrif ers cyhoeddi cylchlythyr 5/88 gwelwyd methiant llwyr gan Lywodraeth Cymru a’r gwasanaeth sifil i roi arweiniad, methiant llwyr gan awdurdodau cynllunio i weithredu ar egwyddor cylchlythyr 5/88 a methiant llwyr gan gynghorwyr i fynnu bod hyn yn digwydd. Pam?

Ar ôl cyfnod hir o lobïo ym maes cynllunio cafwyd datganiad cylchlythyr 5/88. Aeth y Gymdeithas ymlaen i lunio polisïau manwl ym maes tai a chynllunio, gan gynnwys yr alwad am Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad dai. Aeth nifer i garchar dros yr alwad am Ddeddf Eiddo a oedd yn cynnwys argymhellion i roi blaenoriaeth i bobl leol wrth osod tai cymdeithasol, datblygu tai mewn ymateb i alw lleol a rhoi mwy o bwyslais ar adnewyddu’r stoc dai presennol yn hytrach nag ar adeiladu stadau tai newydd. Er hynny, ni lwyddwyd i gael y maen i’r wal.

Oni bai bod Aelodau Cynulliad, Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol yn cymryd yr iaith Gymraeg o ddifri ym maes tai a chynllunio bydd unrhyw gynnydd a wneir o ganlyniad i weithgarwch unigolion, y gyfundrefn addysg, cymunedau a sefydliadau yng Nghymru yn dda i ddim. Y gwir plaen amdani yw y bydd adeiladu bron 6,500 o dai ychwanegol yn ardal Conwy yn arwain at ddirywiad pellach o rhwng 2-3% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Sir, a hyn uwchben dirywiad o 2% dros y degawd diwethaf i 27.4% beth bynnag yr ymdrechion i gynnal Cymreictod y Sir. Bydd yr un peth yn digwydd ledled Cymru.

Beth sydd ei angen felly i wyrdroi’r rhagolygon yma? Yn y lle cyntaf, rydym yn galw ar y Llywodraeth i roi arweiniad clir a chadarn gan gynnwys cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20 yn syth a symud ymlaen yn ddiymdroi i greu Arolygaeth Gynllunio Annibynnol i Gymru. Arolygaeth Gynllunio Cymru a Lloegr sydd wedi gosod y targedau tai gerbron awdurdodau Cymru heb unrhyw ystyriaeth o'u heffaith ar gymunedau Cymru ac ar y Gymraeg.

Rydym yn galw ar awdurdodau lleol i ymateb i’r her hefyd, ac i wneud asesiad o sefyllfa'r iaith yn yr awdurdod ac i lunio argymhellion penodol ar sut i ddiogelu ac i hyrwyddo'r Gymraeg yn ein cymunedau. Yn ogystal â hynny rydym yn galw arnynt i wrthod symud ymlaen gyda’r Cynlluniau Datblygu Lleol, gan nad ydynt wedi derbyn y Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd. Ymhellach mae angen ymestyn y cynllun grantiau i brynwyr tai tro cyntaf a rhoi pwyslais polisïau tai’r Llywodraeth ar adnewyddu'r stoc dai presennol. Gellir ariannu hyn yn rhannol trwy roi'r hawl i gynghorau i godi treth o 200% ar ail gartrefi gan wneud hyn yn weithredol cyn gynted ag y bo modd.

Gyda’r cyhoeddiad diweddar y gall unrhyw gymuned yng Nghymru wneud cais am gyllid i adfywio cymunedau, pa siroedd yng Nghymru fydd yn mynd ati i lunio cynllun Adfywio a Datblygu’r Gymraeg yn seiliedig ar ddiogelu’r economi leol a hyrwyddo gweithleoedd Cymraeg? Un o awgrymiadau ein Maniffesto Byw yw y dylid dangos arweiniad ar raddfa genedlaethol trwy ddynodi 6-10 o ardaloedd fel rhan o gynllun peilot i gynnal ac i ddatblygu cymunedau Cymraeg. Fodd bynnag nid oes rhaid disgwyl am yr arweiniad yma – gall Awdurdodau Lleol gymryd y cam yma yn syth.

Yn yr un modd, trwy nifer o fesurau arfaethedig y Cynulliad rhaid sicrhau bod y Gymraeg a'i chymunedau yn gwbl ganolog i'r agenda cynaladwyedd a'r gyfundrefn gynllunio. Dylid llunio mesurau a fyddai'n gwneud y Gymraeg a'i chymunedau yn rhan o ddiffiniad datblygu cynaliadwy yng Nghymru; asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu; blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol gan sicrhau bod cynghorau yn gweithredu hyn trwy nodi amod lleol fel un o'r prif feini prawf; system gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesiad caniatâd cynllunio blaenorol; gosod asesiadau effaith iaith annibynnol ar sail statudol.

Calonogol iawn oedd clywed Carwyn Jones, yn y cyfarfod gyda dirprwyaeth o’r Gymdeithas ychydig wythnosau yn ôl, yn dweud y byddai’n rhoi ystyriaeth go iawn i’n cais am osod sail statudol i asesiadau iaith ym maes cynllunio. Calonogol iawn bu’r cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y pleidiau eraill yng Nghymru. Ond, mae yna fyd o wahaniaeth rhwng dweud a gwneud! Mae’r ymgyrchu’n parhau, ac oni bai bod yr ewyllys da yn troi'n gweithredu clir o fewn amserlen benodol, bydd yr ymgyrchu’n sicr o ddwysáu.

Toni Schiavone, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

(Ymddangosodd yr erthygl hon yn rhifyn mis Ebrill y cylchgrawn Barn)