Rydyn ni'n galw ar Awdurdodau Lleol i gyfrannu at gyrraedd y targed o fwy na miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Gall Awdurodau Lleol greu siaradwyr Cymraeg trwy:
• Gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion
• Gefnogi’r alwad am Ddeddf Addysg Gymraeg i bawb
• Gynyddu nifer y gweithwyr addysg sy'n siarad Cymraeg
• Ddarparu cynlluniau prentisiaethau yn Gymraeg
Gall Awdurodau Lleol gynyddu defnydd y Gymraeg
- Gallant gyfrannu at y targed o greu 1000 o ofodau uniaith Gymraeg trwy:
◦ Osod nod o weinyddu'n fewnol trwy'r Gymraeg
◦ Fuddsoddi mewn gweithgareddau a gofodau cymunedol Cymraeg
◦ Sicrhau bod yn ysgolion gwledig yn derbyn cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif
- Gallant greu rhagor o gymunedau Cymraeg trwy:
◦ ddefnyddio'r grymoedd newydd i godi 300% o’r premiwm treth cyngor ar ail dai a thai gweigion
◦ sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg
Gall Awdurodau Lleol sicrhau Dinasyddiaeth Gymraeg i bawb trwy:
• Ariannu gwersi Cymraeg ar bob lefel am ddim i bawb
• Buddsoddi mewn rhaglenni cyfieithu cymunedol
• Cydweithio gyda grwpiau cymunedol i sicrhau addysg, gweithgareddau a gofodau Cymraeg i bawb