Gwyl Lesbiaidd fwyaf gwledydd Prydain yn dod i Landudno!

Dyddiadur L Fest 2018 gan Llinos Llaw Gyffes

 

Nos Wener 13fed o Orffennaf 2018

Wedi cyrraedd, dwi’n arllwys cynnwys bag y babell ar lawr yng nghanol y cae ac yn syllu tuag at Pen-y-Gogarth.  Dwi wedi cyffwrdd “base” ym Modafon Farm Park, Llandudno.  Nage, nid ymwelwraig mewnblyg na mewnfudwraig hafol yn dod i edrych ar ôl yr adar ysglyfaethus sychedig mohona i.  Fy musnes yma yw mynychu Gŵyl L Fest 2018, gŵyl gelfyddydau, comedi a cherddoriaeth i lesbiaid Prydeinig a rhyngwladol.  Dyma’r safle sydd wedi ei ddewis fel “nyth newydd”.  Fel aelod o Gymdeithas yr Iaith, dwi'n gwirfoddoli ar stondin dros y penwythnos ac yn cynnal gweithdy "Blas ar y Gymraeg"...a hynny am 10:00 bore 'fory...

“Wyt ti’n meddwi heno?” daw’r cwestiwn trwy fflap ein pabell paleisiol fel ergyd yn gefn pen.  Sut alla i pan mae’n hanfodol i mi gofio’r Wyddor Gymraeg bore ’fory yn Nghaffi’r iard?  Gofynnaf i fi’n hun:  Ydw i’n gorbryderu am y wers hon? Yndw.  Debyg y byddem ni wrthi am hanner awr yn ceisio meistroli’r llythyren ‘ll’.  Yn hytrach na phoeni am yfory, dwi’n optio i ddawnsio’n y disgo clustffonau “distaw” gyda un o’n haelodau newydd, sydd a’i gweiddi’n dangos ei bod hi yn ei helfen:  “Mil o ferched, miwsig gwych, awr o adra! Spot on!”

 

Bore Sadwrn, 14fed o Orffennaf 2018

9yb.  Wedi cysuro’r rhai sydd heb glirio’r sudd oren o’u system dreuliad, y blaenoriaeth yw hoistio’r fflipsiart o gefn car Swyddog Maes y Gogledd at y safle a penodwyd i mi gynnal y gweithdy.  Yn gyntaf, rhaid osgoi sathru pen aelod arall wrth gamu allan o unig ddrws dibyniadwy’r babell.  Digon hawdd: mae pen MAWR arni ers pump y bore (joc wael – sori).  Mae Cindy Edwards aka "The Boss" aka Prif Trefnwraig yr Ŵyl eisoes yno i gadw tabs arnom dwi’n amau.  Wrth ei hymyl, mae merch yn cario Canon i dynnu ein lluniau at The Pink Portraits Company.  Cyhoedda trefnwraig dros yr uchelseinydd fod y wers ar fin dechrau: “Clywch, Clywch.  Dewch yn llu”.

Mae’r pyntars yn cynyddu o fod yn dri i wyth. Ar ôl cwpl o funudau, mae un-deg-un ohonom.  ’Na welliant!  Dwi’n gwenu ar fy nisgyblion byrhoedlog yn Eisteddfodaidd (tair wythnos i fynd i feistroli’r gwên yma at yr ŵyl cenedlaethol go iawn...dal ati, boi).  Maent yn griw chwilfrydig a’u hoedran tua 45, ar gyfartaledd.  Mae pob aelod o Gymdeithas yr Iaith yn bresennol hefyd ac yn barod i helpu (heblaw un sydd, druan yn chwydu’n ei phabell heb i ni wybod).  Mae’r dosbarth yn awyddus i ynganu llythyren ‘y’ y gair ‘hoyw’ yn gywir ac yna’n siomi wrth glywed fod ‘y’r fannod (‘y’ gadair, ‘y’ papur’) yn swnio’n dra wahanol!

Mae nhw’n dysgu sut i gyflwyno’n hunain ar ffurf teilwng y cwrs WLPAN a ddysgir mewn adrannau Dysgu Gydol-Oes prifysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru...

“Pwy ’dach chi?”
“Katherine dwi”.
“Pwy ’di hi?”
“Sue ’di hi”.
“Eich partner chi?”
“How do you say ‘yes’?...”

Dwi’n simsanu braidd am ddysgu’r ferf ‘BOD’. Dim ond awr gennym felly yn hytrach na thynnu nyth cacwn, dwi’n carlamu mlaen at gofyn o le mae rhywun yn dod.  Mae’r Swyddog Maes yn gwenu’n amyneddgar wrth iddi ailadrodd y gair ‘byw’ am y pumed tro.  Mae’r myfyriwyr yn ymateb yn hapuslon gan ailadrodd y swn ‘bwy’ ar ei hôl.

“Lle ’dach chi’n BYW?”
“Ahh!  Dwi’n BWY yn Llundain.”...
Manceinion...

Lerpwl...

Yr Amwythig...

Chafon ni ddim amser i chwarae’r gem cardiau “Pwy ydw i?”, pob cerdyn â chymeriad lliwgar cynhwysol ar y ffrynt.  Dyna biti.  Buaswn i wedi cael hwyl yn gwrando ar yr acenion amrywiol yn ebe “Elton dwi.  Mae gen i dronsiau streipiog du a gwyn.  Mae gen i dei pinc” ayb.

 

Canol Dydd Sadwrn, 14fed o Orffennaf 2018

Mae’n chwilboeth.  Rydym yn penderfynu mai gwell fydd gosod stondin Cymdeithas yr Iaith ar ddiwedd y prynhawn neu’n hytrach am ddiwrnod cyfan yfory.

Dwi’n ei heglu hi i’r Beudy, lle mae Ali Hannon yn adrodd eu haraith TedX ‘Rhywiau (Gender) fel Perfformiad’.  Gan eu bod nhw (Ali)’n ddi-deuol (non-binary), mae nhw’n profi ddwy ochr y sbectrwm rhywiaeth.  Honna nhw (Ali) mai prif reol byrfyfyrio yn y maes theatr yw derbyn.  Heb cydnabyddiaeth, rydym yn llithro i’r we gludiog o ddiffinio sut ymddygiad sy’n ‘wrywaidd’ a sut un sy’n ‘benywaidd’.  Yn y maes actio, gofynnant pam fod merched yn fodlon actio rhan e.e. wardrob, ond nid rhan dyn?  Mae nhw’n ein hannog i feddwl am faint yr ydym yn perfformio ein rhywiaeth (gender) i blesio rhagsyniadau y mae pobl yn ein dal atom ni. Â fedr ein rhywiau fod yn wenwynol?

Wedi cymeradwyaeth galonnog i Ali, rhedaf at un o’r faniau bwyd a chipio tosti caws halwmi a thomato mêl (#danteithiol) er mwyn mwynhau’r awr nesaf yng nghwmi gwych y bardd geirfyw Sophia Blackwell yn perfformio ei set 50 Grades of Shame.  Mae’n pryfocio treialau canlyn ei harddegau, syrthio mewn cariad, rhyw gwael a barddoniaeth gwael ei harddegau am y pynciau uchod.  Chwertha’r gynulleidfa, yn enwedig y rhai hŷn mewn pyliau. Mae hi’n ddifyr ac yn beniog iawn.

Yn dilyn Sophia, mae Mandy Toothill yn ymddangos ar lwyfan y beudy calchfaen, comedienne o ogledd Lloegr (nid o Twthill dre, cofiwch) sy’n eich swyno efo’i hacen hygryf ac yn hitio adre wrth son am ei phrofiadau gwbl cachlyd -- a’i iachâd -- o gancr y fron.  Dynes fain, hardd ond hynod ingol a chref.  Jyst digon o regi i mi.

 

Dydd Sul, 15fed o Orffennaf 2018

Mae pawb yn cytuno ei bod hi’n hen bryd rhaffu’r lesbiaid i ymuno am aelodaeth blynyddol o Gymdeithas yr Iaith.  Rydym yn dewis man strategol i ddenu’r mwyafrif – gosod bwrdd reit ar ddechrau’r stondinau.  Wyddwn i ddim taw’r iaith rhyfedd sydd fel arogl persawrus o gwmpas ein stondin ni, ein brwdfrydedd ynteu’r ymdaeniad o organau cenhedlu benywaidd sy’n brwydro am le wrth ymyl y ddogfennau CYI ar led y bwrdd sydd yn denu diddordeb y mynychwylwragedd atom. Jyst i egluro: Cynnyrch ein ffrind Jill yw “ffanis” mae hi’n creu o ddefnydd ac yn gwerthu gyda chomisiwn i'r Gymdeithas. Fel seirenau homonormatif, dyma’n abwyd ni er mwyn cael cyfle i ddatgan brif reswm ein presenoldeb, sef codi ymwybyddiaeth yngylch yr iaith Gymraeg!

Crwydra un ohonom o amgylch y cae gyda taflenni ymgyrchoedd y Gymdeithas.  Llwydda i gael llond llaw o recriwts newydd dros yr iaith - pwy â ŵyr fod gymaint o Gymru Cymraeg yn yr ŵyl? Rhai wedi aros yn eu cynefin, ond llawer wedi symyd i ddinasoedd bellach. Tra mae hi wrthi, daw merch ataf a holi i ble’r ai disgyblion yr ysgolion cynradd gwledig y mae’r awdurdodau yn bygwth eu cau?  Atebaf mai eu bwriad yw creu “goruwchysgolion” anferth sydd yn mynd i orfodi plant i deithio’n bellach i’r ysgol.  Fydd hyn yn gwanhau defnydd y Gymraeg yn y cymunedau bychain – arterïau ein traddodiad.  Mae athrawon dan fygythiad colli eu swyddi oherwydd gweithredoedd yr awdurdodau i ffafrio cynilion dros pobl.  Mae’r ferch wedi ei siomi ac mae hi’n awyddus i arwyddo’r ddeiseb.  Llwyddiant!

Â’r awyr las dal i befrio yng ngheg Môr Iwerddon, daw cwpwl o’r wers Gymraeg at stondin Cymdeithas yn holi am un o’n hymgyrchoedd sydd ar y gweill, sef datganoli darlledu i Gymru. Mae’r ddwy’n arwyddo deiseb yna’n dweud – yn ddigon ar hap -- faint y byddent yn hoffi dysgu’r Gymraeg yn rhugl.  Er mawr syndod i mi, ni ddaw’r dyhead hwn o unrhyw fwriad i fudo i Gymru yn y dyfodol agos.  Dwi’n gofyn i Nicola beth mae hi wedi ei fwynhau fwyaf dros y penwythnos, sydd yn bell o ddarfod eto (os yw L Fest 2017 unrhyw arwydd!) Ei hateb:  Y sesiwn blas ar y Gymraeg.  Wedi ennyd o ddrwgdybiaeth, mae fy nghalon fel petai’n “tyfu” (?)  Dwi môr falch nes ’mod i bron â chrio ar y gweiniau gwniedig yn rhythu arna i ar y bwrdd.  Mae nhw’n gwenu’n ddiffuant (Nicola a’i chariad, ynte) cyn cerdded i ffwrdd i brynu pei.

 

Nos Sul, 15fed o Orffennaf 2018

Am 8yh, heidia pawb i’r brif lwyfan i glywed prif ganeuwraig y nos Sul, Toyah Willcox.  Mae ei hegni hi’n catshin ac mae awyrgylch o ewfforia benywaidd nid ffrantig ond ystyriol ym mhobman.

Toc, mae Cindy a’r trefnwyr yn cloi, gan ddweud eu dweud.  Mae ganddi “gyfrinach” i’w rannu hefo ni. Mae’r dorf yn tawelu ychydig.

 

“Mae Mr. Roberts, perchennog Bodafon Farm Park wedi cytuno i gynnal L Fest 2019 ar ei fferm unwaith eto y flwyddyn nesaf!”  *Cue: chwibanu a chlapio byddarol*.  Ebe Cindy:  

“Mae o’n dweud y bydd o’n falch iawn o’n croesawu ni yn ein holau – ’Dan ni’n yfad ’tha pysgod – Ei eiriau fo, nid y fi!”  Gyda chryn chwerthin a cwpl o wynebau cochion, mae pawb yn cymeradwyo wrth iddi, fel Big Brother à la ‘1984’ George Orwell ddringo o’r llwyfan.

Y noson honno, penderfynais aros yno ar fy mhen fy hun, yn anffodus gan fod bywyd go-iawn gan yr aelodau eraill (gwaith, plant, Gweplyfr ayb.) Noder:  Mae hyn yn gwbl anghymwys efo bod yn unig. Dwi wrth fy modd yn treulio’r noson yn gwylio perfformiadau meic agored efo crowd niferus o ferched yr un oed ar batio gwledig y caffi.  Dwi wedi noddi fy hun i ganu That Don’t Impress Me Much gan Shania.  Ai peth call yw parhau i yfed – yn arafdeg bach chwarae teg i mi – pan mae posibilrwydd gorfod canu cân mor anghydnaws â hynna?

Nid Pwyll sydd piau hi yn ystod gŵyl fel hyn ond Y Fi felly wedi i’r caffi gau am 2yb, dawnsiwn draw yn Ddionysaidd i’r Pabell Ymdrwythiad Celfyddydol (ie, dyna’i theitl), math o ‘ganolfan lles’ tan bump o’r gloch y bore.  Wedi gryn gêms, cerddoriaeth a siarad gweiddi, mae’r noson yn dirwyn i ben jyst cyn toriad gwawr, a hithau wedi dechrau pigo glawio am y tro cyntaf ers mis Mai bellach?  Dwi’n ffarwelio â’r ffrindiau newydd.  Atebant fod yn rhaid i mi ddod yn rhan o’u gyrlgiang nhw gan nad oes ganddynt aelod Cymraeg ynddi eto.  Yn sicr, fe arhoswn mewn cysylltiad dros y we.

Dwi’n meidroli wrth gerdded trwy’r gwair meddal tuag at fy mhabell paleisiol ac yn dadwisgo yn y tywyllwch byddarol.  Swatiaf yn gynnes yn fy sach i wrando ar y glaw ysgafn, ysgafn.  Meddyliaf am yfory.  Bore Llun. Mae’n gwawrio arnaf mai yfory fydd y tro cyntaf i mi wir ddeall y term post-festival blues.

Diweddariad, 23-07-2018, 9:30yh:  Waaaaa dwi isho mynd nôôôl! :’(
Diweddariad, 23-07-2018, 10:00yh:  WAAAAA dwi isho mynd nôôôl! :’( ...