Yn nwylo Leighton Andrews mae un o’r penderfyniad pwysicaf a fydd yn llywio
tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy. Mae'r safonau iaith newydd
yn offeryn statudol fydd yn llywio holl ddarpariaeth Gymraeg cyrff a chwmnïau ac
maent yn hollbwysig i obeithion pawb yng Nghymru i sicrhau twf yn yr iaith.
Mae llawer iawn yn y fantol.
Gall y safonau sicrhau pethau cwbl sylfaenol, fel bod plant yn gallu cael gwersi
chwaraeon yn Gymraeg, bod pobl hŷn cael mynediad at ofal yn yr iaith, a bod gan
weithwyr yr hawl i’w siarad a’i defnyddio yn y gwaith. Gallai’r safonau newydd
weddnewid eu bywydau, a thrwy hynny, gallent sbarduno twf yn y niferoedd sy’n
gallu’r Gymraeg ac yn ei defnyddio bob dydd.
Mae’n hawdd anghofio mai pobl ar lawr gwlad yw canolbwynt y ddadl, nid gemau
gwleidyddol Bae Caerdydd.
Ni ddylai’r gweision sifil, na’r gwleidyddion, fyth anghofio pobl fel:
- y gweithwyr sydd yn cael eu gwahardd rhag siarad Cymraeg yn y gweithle.
- y plant niferus, o Aberystwyth i Abercynon ac o Rydaman i’r Rhos, sy’n methu
cael gwersi nofio yn Gymraeg.
- yr holl bobl ifanc sydd â sgiliau yn y Gymraeg yn gadael Cymru i chwilio am
waith, tra, ar yr un pryd, bod cyrff a chwmnïau yn methu cyflenwi gwasanaethau
yn Gymraeg.
- y gweithwyr a’r plant nad oes y cyfle ganddynt i ddysgu Cymraeg yn rhugl
- y bobl ifanc nad ydynt yn gweld yr iaith fel un fodern oherwydd nad oes
rhyngwyneb Cymraeg ar yr I-pad na ffonau symudol
- y cleifion, rhai ohonynt yn eu cyfnodau mwyaf bregus, sydd yn dioddef oherwydd
nad oes gweithiwr iechyd sydd yn siarad Cymraeg.
Mae pobl Cymru wedi aros llawer yn rhy hir am well gwasanaethau Cymraeg: tair
mlynedd ar ddeg ers i’n hymgyrch dros ddeddf iaith newydd gychwyn, pum mlynedd
ers i’r broses ddeddfu dechrau, a thros ddwy flynedd ers pasio Mesur y Gymraeg
yn y Cynulliad.
Mae’r oedi’n gwbl annerbyniol, ac yn awgrymu llusgo traed a diffyg
blaenoriaethu’r Gymraeg gan y Llywodraeth. Mae’r holl oedi yn dod wedi i ni, a
llawer o bobl eraill, ddisgwyl yn hir ac ymrwymo’n llwyr i’r broses
ddemocrataidd.
Ar y pryd, Mesur y Gymraeg oedd y darn o ddeddfwriaeth hiraf a mwyaf cymhleth a
fu dan ystyraeth y Cynulliad Cenedlaethol - enghraifft arall o ymrwymiad
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymdrechu i bwyso ar y Cynulliad er lles yr iaith.
Bu ymgyrch fawr gyhoeddus y tu ôl i'r Mesur hwnnw, gyda chytundeb eang yn y
diwedd fod angen statws swyddogol, Comisiynydd cryf a hawliau i’r Gymraeg, fel
amlinellwyd yn y cynigion a gyhoeddwyd gennym yn 2006. Fodd bynnag, er gwaethaf
yr holl frwydro - am dros ddegawd - rydym yn aros am well gwasanaethau Cymraeg o
hyd.
Llynedd, bu ymgynghoriad arall ar gynigion am y safonau iaith, y tro hwn gan
Gomisiynydd y Gymraeg. Fel cannoedd o gyrff eraill, ymatebon ni i’r
ymgynghoriad. Er nad oedd safonau’r Comisiynydd, yn ein tyb ni, yn ddigon cryf,
maent o leiaf yn pwysleisio mai ar y cyrff eu hunain y dylai’r cyfrifoldeb i
ddarparu er lles y bobl fod, yn hytrach na bod y dinesydd yn gorfod brwydro
trwy’r adeg. Mae cynigion Meri Huws hefyd yn sefydlu’r egwyddor y dylid darparu
isafswm o wasanaethau yn Gymraeg ledled y wlad - o Fôn i Fynwy. Mae gwir angen
cryfhau cynigion y Comisiynydd, nid eu gwanhau.
Pryderwn, fel awgrymir gan lythyr diweddar y Gweinidog at y Comisiynydd, fod
penderfyniad Leighton Andrews i wrthod y safonau iaith arfaethedig yn mynd i
arwain at wanhau, yn hytrach na chryfhau, y cynigion a gyhoeddwyd ganddi ym Mis
Tachwedd y llynedd.
Yr hyn rydyn ni eisiau gweld y Gweinidog yn ei sefydlu yw hawliau penodol, megis
yr hawl i addysg gymraeg, yr hawl i ofal iechyd, yr hawl i weithio yn Gymraeg,
er mwyn newid profiad bob dydd pobl. Dylai’r safonau hefyd sicrhau bod rhagor o
gyrff, rhai awdurdodau lleol yn enwedig, yn dilyn enghraifft Cyngor Gwynedd ac
yn gweinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Heb amheuaeth, mae canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dangos i’r Llywodraeth bod angen
newidiadau polisi pendant, a phenderfyniadau dewr er mwyn cryfhau’r Gymraeg.
Gobeithiwn fod Leighton Andrews yn barod i gymryd y camau heriol hyn - wedi’r
cwbl mae’r penderfyniad sydd yn ei ddwylo yn un hynod o bwysig i’n hiaith
genedlaethol unigryw.
Robin Farrar
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg