Wylfashima: Taith Sel Jones i Siapan

“yr ydym wedi bradychu ein cyn-dadau, ac wedi bradychu plant ein plant”

Gwnaed y datganiad uchod gan un o’r 160,000 o ffoaduriaid damwain Niwclear Fukushima yn Japan yn 2011 wnes i gyfarfod yn ddiweddar. Roedd hi wedi dianc o Tomioka, ac ni all ddychwelyd i’w chartref byth, oherwydd lefel yr ymbelydredd yn y dref.

Roeddwn yn cynrychioli Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar daith oedd wedi’i threfnu gan Green Cross, ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan Michael Gorbachev, cyn arlywydd yr Undeb Sofietaidd, i weithio gyda phobl mewn ardaloedd o’r byd sy’n dioddef oherwydd effaith rhyfel neu ddamwain Niwclear.

Yr oedd 3 arall o Gymru ar y daith, Carl o PAWB, Brian o CND Cymru a Malcolm o Greenpeace. Pwrpas y daith oedd cael gweld drosom ein hunain effaith a chanlyniadau y ddamwain niwclear yn nhalaith Fukushima, a hefyd gweld sut roedd y ddamwain wedi effeithio ar bolisi ynni Japan a gwledydd eraill.

Yr oedd sgil effeithiau y ddamwain i’w gweld yn glir mewn trefi fel Koriyama - lle nad yw’n ddiogel i bobl ddychwelyd i fyw ers y ddamwain hyd hyn. Hefyd, cawsom y cyfle i gyfarfod pobl na fydd byth yn gallu, neu sydd byth eisiau, dychwelyd i’w cartrefi.

Credaf fod y map o’r llanast yn Japan wedi ei osod ar ben map o Fôn a Gwynedd yn dangos beth allai ddigwydd pe byddai damwain yn yr Wylfa, a’r dinistr fyddai’n dilyn i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Ond nid oes rhaid disgwyl am ddamwain i weld be fyddai’r effaith ar y Gymraeg o adeiladu Wylfa B. Hwn fyddai’r prosiect adeiladu mwyaf yn Ewrop, a byddai angen 8 mil o weithwyr i’w adeiladu.

Dim ond 20% o’r rhain fyddai’n lleol (lleol = ardal teithio i waith felly Gogledd Cymru a thu hwnt). Bydd cwmnïau lleol sy’n rhy fach i gael gwaith ar y prosiect, hefyd yn colli eu gweithlu i’r prosiect.

Rydym ni’n gwrthwynebu cynllun Ynys Môn a Gwynedd i adeiladu miloedd o dai. Rhan o’r rheswm am y cynllun yw’r mewnlifiad o weithwyr i’r ardal, fel ddigwyddodd pan adeiladwyd y Wylfa cyntaf.

Nid oes amheuaeth bod angen gwaith yn yr ardal ar gyfer pobl leol ac mae Maniffesto Môn a baratowyd ar ran PAWB yn dangos sut y gellid darparu gwaith trwy brosiectau ynni cynaliadwy.

Damwain Fukushima oedd yr hoelen olaf yn arch y Diwydiant Niwclear i’r rhan fwyaf o wledydd, efo’r gofynion diogelwch ychwanegol yn ei wneud yn llai economaidd fyth ac yn cynyddu’r angen am gymhorthdal cyhoeddus, e.e. £37 Biliwn i Hinckley a hynny am 35 mlynedd. Sy’n codi’r cwestiwn a oes modd i’r Llywodraeth gynnig y lefel angenrheidiol o gymhorthdal a fyddai ei angen ar gyfer adeiladu Wylfa B.

Awyr iach oedd y trafodaethau ynTokyo am sut mae gwledydd yn sôn nid yn unig am beidio adeiladu pwerdai newydd ond hefyd am gau eu pwerdai niwclear a chynhyrchu mwy o drydan cynaliadwy. Y sefyllfa yn yr Almaen yw bod 50% o’r ynni maent yn ei gynhyrchu yn dod o ffynonellau adnewyddol a’r mwyafrif o’r prosiectau yn rhai llai ac nid ym mherchnogaeth cwmnïau anferth fel ym Mhrydain. Gymaint felly fel bod y cwmnïau mawr yn herio’r llywodraeth am roi blaenoriaeth i ynni adnewyddol!

Tra bod ynni niwclear angen cymhorthdal am ddegawdau ac mai gwenwyn yw ei etifeddiaeth, ni fydd angen cymhorthdal ar gynhyrchu ynni o’r haul ar ôl 2018. Nid cynlluniau enfawr sydd eu hangen ond cynlluniau llai sydd yn ateb angen lleol yn gyntaf, yn brosiectau cymunedol lle’n bosib, ond wrth gwrs efo’r blaenoriaeth bob tro i arbed ynni yn gyntaf a gwella safon ynysu ein cartrefi.

Tra mod i yn Japan, cadarnhaodd y Cyf Cyff ei safbwynt ar ynni niwclear:

" Mae’r Cyfarfod Cyffredinol yn cyfarwyddo Senedd a holl ranbarthau Cymdeithas yr Iaith i gydweithio gyda PAWB, CND Cymru, Greenpeace, Cyfeillion y Ddaear Cymru a Chynghrair Wrth Niwclear De Cymru yn yr ymgyrch yn erbyn Wylfa B, yn ogystal â Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf ac Olbury B yn Sir Gaerloyw sy’n beryglus o agos at Gymru."

Mae hefyd her i ni i ymgyrchu dros gymunedau hyfyw, cynaliadwy efo economi sydd yn fodd i gynnal nid dinistrio cymunedau.

Sel Jones