Ethol Mabli Siriol yn gadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi ethol Mabli Siriol yn gadeirydd newydd y mudiad iaith. Cyhoeddwyd y newydd hwn heddiw (07 Tachwedd) yn ein cyfarfod cyffredinol rithiol yn dilyn cyfnod o bleidleisio post. Mae Mabli Siriol yn olynnu Bethan Ruth, fuodd yn gadeirydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Buodd Mabli’n gadeirydd ein Grŵp Addysg cyn cael ei hethol i’w rôl newydd. 

Yn wreiddiol o Grangetown yng Nghaerdydd, mae Mabli wedi bod yn ymgyrchu gyda'n Grŵp Addysg a'n Cell Caerdydd ers sawl blwyddyn. Mae’n gweithio ym maes hawliau ceiswyr lloches, a buodd gynt yn gweithio yn Senedd Cymru ac fel ymgyrchydd dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. 

Meddai Mabli Siriol, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith: 

“Mae’n fraint cael fy ethol yn gadeirydd i fudiad iaith sy’n chwarae rhan mor allweddol yn y frwydr dros y Gymraeg a chymunedau Cymru. Hoffwn ddiolch i Bethan Ruth, sydd wedi bod yn gadeirydd rhagorol a chydwybodol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod cyfnod heriol a digynsail. 

Fel cadeirydd, fy mlaenoriaeth i dros y flwyddyn nesaf fydd ymgyrchu dros y weledigaeth yn ein dogfen ar gyfer etholiadau’r Senedd 2021, ‘Mwy na miliwn - dinasyddiaeth Gymraeg i bawb’. Bydd gweithredu agenda dinasyddiaeth Gymraeg i bawb yn sicrhau fod pawb, o bob cefndir, yn gallu dysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg, a bod y Gymraeg yn iaith naturiol bywyd bob dydd ar draws y wlad.”

Ychwanegodd: 

Mewn cyfnod anodd ac ansicr, pan mae wedi bod yn hawdd digalonni ar adegau, sylfaen gobaith i mi ydy’r sicrwydd sydd gen i fod modd i bobl gyffredin newid pob dim. 

"Mae gan Gymdeithas yr Iaith hanes hir o frwydro ac ennill pethau nad oedd pobl yn meddwl oedd yn bosib ar y pryd. Felly dw i’n ffyddiog, os wnawn ni barhau i gydweithio a chyd ymgyrchu, wnawn ni wireddu gweledigaeth y Gymdeithas o Gymru gyfiawn Gymraeg."