Camau Nesaf Ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth - beth alla i wneud?

Danfon neges at arweinydd eich Cyngor, a'ch cynghorydd lleol, i fynnu bod gweithredu ar frys i reoli'r farchnad dai a sicrhau cartrefi i'n pobl.

Mewn siroedd gwledig a thwristaidd, dylent o fewn yr wythnosau nesaf fod yn:

1) Cychwyn ymgynghoriad ar lefel y premiwn treth cyngor ar ail gartrefi ar gyfer Ebrill 2023 ymlaen - bydd hawl gan gynhgorau i gynyddu hyd at 300%, ond rhaid ymgynghori nawr neu bydd blwyddyn yn cael ei cholli.

2) Disgwylir i'r Llywodraeth gyhoeddi is-ddeddfwriaeth yn yr Hydref i greu 3 dosbarth cynllunio: Prif Gartref, Ail Gartref a Llety Gwyliau.
Ond bydd yn rhaid i bob Gyngor Lleol unigol basio Cynnig "Erthygl 4" i'w wneud yn ofynnol i geisio caniatâd cynllunio i newid dosbarth defnydd unrhyw eiddo, ac felly reoli cyfran yr ail gartrefi a thai a droir yn AirBnB etc.

3) Mae angen i bob Awdurdod Lleol wneud ymchwil cadarn i sefydlu fod nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau'n broblem mewn ardaloedd penodol. Heb y ffeithiau cadarn, gellid apelio yn erbyn penderfyniadau Awdurdodau Lleol.

A danfonwch neges at y Gweinidog Julie James - gan gopio Jeremy Miles sydd â phortffolio'r Gymraeg, a'r Prif Weinidog, Mark Drakeford - i fynnu eu bod yn gweithredu'n syth i alluogi Awdurdodau Lleol i gymryd y camau hyn.
Mae angen i Lywodraeth Ganolog -
1) Gyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol am sut i ddefnyddio'r grymoedd newydd yn syth

2) Gyhoeddi a chael trwy'r Senedd yr isddeddfwriaeth i sefydlu Dosbarthiadau Cynllunio

3) Rhoi cyllid teg i Awdurdodau Lleol wneud yr ymchwil, trin ceisiadau cynllunio a sefydlu Adrannau Gorfodaeth fel bod dannedd i'r ddeddfwriaeth.

4) Sefydlu'n glir pwy fydd yn gyfrifol am greu'r cofrestr o Lety Gwyliau, fel nad oes modd i berchnogion ail gartrefi gofrestru ar gam er mwyn osgoi treth cyngor.

5) Symud ymlaen ar frys i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn gan fod sicrhau cartrefi i bobl yn fater ehangach na rheoli ail gartrefi a llety gwyliau'n unig

Cysylltwch â'r tri gweinidog nawr:
Gohebiaeth.Julie.James@llyw.cymru
Gohebiaeth.Jeremy.Miles@llyw.cymru
Gohebiaeth.Mark.Drakeford@llyw.cymru