Galw am warchod Canolfan Bedwyr

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Iwan Davies, yn galw arno i ail-ystyried cynlluniau presennol Prifysgol Bangor ar gyfer dyfodol Canolfan Bedwyr, ac am gyfarfod brys gydag yntau.

 

Rydym hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i Undeb UCU Bangor yn ei bleidlais diffyg hyder yn arweinyddiaeth y Brifysgol.

 

Ysgrifennodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd ein Grŵp Addysg, lythyr agored at is-ganghellor y Brifysgol ar ran y Gymdeithas. Dywed y llythyr:

 

“Fe gydnabyddir y Ganolfan fel canolfan ieithyddol o bwys cenedlaethol a rhynglwadol. Byddai trosglwyddo adrannau Gloywi Iaith, Technoleg Iaith ac Adran Safonau (ac unrhyw adran arall) o Ganolfan Bedwyr i’r Gwasanaethau Academaidd a Chorfforaethol y Brifysgol yn arwain at wanhau’r Ganolfan hollbwysig hon gan beryglu statws gwaith ymchwil am y Gymraeg. Mae sicrhau bodolaeth a pharhad canolbwynt ar gyfer gwaith ymchwil polisi iaith yn y Brifysgol yn hanfodol; mi fyddai teneuo Canolfan Bedwyr a throsglwyddo nifer o’i swyddogaethau a’i hadrannau i’r Gwasanaethau Corfforaethol yn arwain at chwalu ei holl bwrpas.”

 

Dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd ein Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

 

“Mae gennym bryderon difrifol ynghylch dyfodol Canolfan Bedwyr. Mae Prifysgol Bangor yn honi y byddai Gwasanaethau Corfforaethol y Brifysgol yn cyflawni rôl y Ganolfan i’r un safon ac effeithioldeb - ond nid oes gennym unrhyw hyder mai dyma fyddai’r achos. Pryderwn ymhellach mai cyfiawnhad ariannol yn unig sydd i’r penderfyniad hwn ac nad yw’r Brifysgol wedi rhoi ystyriaeth ddigonol tuag at ei goblygiadau ieithyddol. 

 

“Mae cyfraniad Canolfan Bedwyr i ecosystem ieithyddol y gogledd-orllewin yn gwbl allweddol, ac yn wir fe gydnabyddir y Ganolfan fel canolfan ieithyddol o bwys cenedlaethol a rhynglwadol; dyna pham rydym wedi ysgrifennu llythyr agored at is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Iwan Davies, yn erfyn arno i ail-ystyried y cynlluniau hyn.”

 

Ychwanegodd:

 

“Mae’r cynlluniau hyn yn bygwth teneuo’r Ganolfan ac fe fyddai hynny’n ergyd i enw da Prifysgol Bangor ar waith ymchwil iaith Gymraeg. Nid yn unig hyn, ond dyma’r diweddaraf mewn cyfres o doriadau ac ail-stwythuro niweidiol yn y Brifysgol dros gyfnod o flynyddoedd, sy’n cael effaith niweidiol ar y staff, y Gymraeg a’r addysg mae myfyrwyr yn ei dderbyn. Rydym yn ymuno ag undeb UCU Bangor yn eu diffyg hyder yn arweinyddiaeth bresennol y Brifysgol."
 
Darllenwch y llythyr agored isod.
AtodiadMaint
Canolfan Bedwyr -2.pdf38.67 KB