Argyfwng tai Ceredigion

 
Daeth tua hanner cant o ymgyrchwyr ynghyd dros y penwythnos (ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd) i dynnu sylw at yr argyfwng tai sydd yn golygu na all pobl brynu cartrefi yn eu cymunedau ac sy’n cyfrannu at yr allfudiad difrifol o bobl ifanc o Geredigion. 
 
Yn ôl asesiad Cyngor Ceredigion o’r farchnad tai, prisiau tai yn y sir yw’r lleiaf fforddiadwy yng Nghymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd 25% o werthiannau tai yng Ngheredigion yn ail gartrefi. Mae 117,000 o bobol rhwng 15 a 29 oed wedi gadael ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf. Mae hynny’n cyfateb i 55% o’r holl allfudiad ar gyfer pob oedran.
Fe dynnodd y tri siaradwr yn y rali - Bethan Ruth o Gymdeithas yr Iaith, Dr Hywel Griffiths, a Mirian James, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth - sylw at yr amryw broblemau sy’n deillio o’r argyfwng. Cynhaliwyd y rali gyda mesurau COVID gofalus yn eu lle, gan gynnwys gorsafoedd diheintio dwylo, ymgyrchwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb a rheolau ymbellhau cymdeithasol ar waith. 
 
Wrth annerch y rali, dywedodd Mirain James: 
 
“Heb ymyrraeth nawr bydd dyfodol cymunedau cefn gwlad Cymru yn un llwm a gwag. Pan fyddai’n hŷn, lle bynnag af i ar fy nhaith bywyd, dwi’n gwybod mai dod adre i fyw, i fro fy mebyd yn Sir Benfro, fyddai am wneud, ond mae’n annhebygol iawn y byddaf yn gallu fforddio prynu cartref yno. Dyma lle mae fy nheulu wedi ffermio, byw a bod, magu cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ar dir cefn gwlad Cymru, a fedrai ddim goddef meddwl y byddai i’n methu byw a magu teulu fy hun yn yr un fro.”
 
O flaen y dorf, dywedodd Bethan Ruth, a siaradodd ar ran Cymdeithas yr Iaith yn y brotest:
 
“Rydyn ni’n dod at ein gilydd heddiw gyda neges glir i’n cynghorau a’r llywodraeth bod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael a’r argyfwng cenedlaethol sydd gennym ni ar ein dwylo. Ar gyfradd uwch nag erioed, mae calon ein cymunedau ni dan fygythiad yn cael eu troi i ailgartrefi gwag. Dydyn ni ddim yn sôn am dai sydd ar gyrion pentref, ‘da ni’n sôn am strydoedd cyfan yng nghanol pentrefi. Tai teras, tai cyngor yn troi mewn i dai haf! Rydyn ni’n sôn am dai sy’n rhoi’r arwydd ‘gwerthwyd’ lan cyn yr arwydd ‘ar werth’; tai sy’n mynd am symiau syfrdanol, ymhell tu hwnt i gyrraedd cyflogau lleol. Tai sy’n cael eu marchnata fel tai haf. Ar ben hyn, mae’r argyfwng o dai rhent ansawdd isel, gyda rhent yn cynyddu’n uwch na chyfradd chwyddiant. Mae’r sustem wir wedi ei thorri.”
 
“Y man cyntaf yw’r angen i gydnabod ein bod ni mewn argyfwng. Galwn ar gynghorwyr Ceredigion i ddatgan ar frys bod argyfwng tai, ac i fynd ati ar frys i fynd i’r afael ag anghenion go iawn ei chymunedau gydag ymateb cynhwysfawr ac integredig. Nid diffyg atebion yw’r broblem ond diffyg cymhelliant i weithredu’r atebion. Does neb arall am sicrhau ein hiaith ni a’n heconomi drosom ni, mae lan i ni.”
 
Yn y gwynt a’r glaw, cerddodd rai o aelodau'r Gymdeithas o Lanrhystud i’r rali yn Aberaeron i brotestio am y problemau hyn yn y farchnad dai.
 
Ychwanegodd Jeff Smith, un o’r grŵp a gerddodd o Lanrhystud i’r rali yn Aberaeron sydd hefyd yn gadeirydd ein rhanbarth Ceredigion:
 
“Mae’r seyllfa bresennol yn un du hwnt i dorcalonnus. Mae’r hawl i fyw adra yn rywbeth gwbl allweddol i unrhyw gymuned fyw ond yn anffodus, mewn nifer gynyddol o ardaloedd yng Nghymru mae pobl ifanc yn ei chael yn gwbl amhosib i ymgartrefu yn eu cymunedau. Nid eu bai nhw ydy hyn wrth gwrs: mae’r broblem tu hwnt i’w rheolaeth nhw ac yn deillio o’r ffaith fod y system dai yn ran o’r farchnad agored sy’n golygu nad oes rheolaeth gyhoeddus ddigonol arno. Canlyniad hyn yw sytem dai sydd ddim yn gweithio er lles ein cymunedau a sydd bellach wedi datblygu i fod yn argyfwng.
 
‘Oherwydd hyn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfres o fesurau argyfyngol, fyddai’n cynnwys rhoi’r grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai. Ac hyn yr hir-dymor, bydd angen i’r Llywodraeth gyflwyno cyfres o ddatrysiadau strwythurol, fel Deddf Eiddo, er mwyn sicrhau na fydd argyfwng o’r math yma’n digwydd eto a bod y farchnad dai yn gweithio er budd cymunedau, nid cyfalafiaeth. Mae angen mwy na miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae angen creu a chynnal mwy o gymunedau a gofodau Cymraeg eu hiaith. Dylai Llywodraeth nesaf Cymru anelu at greu mil o ofodau Cymraeg newydd dros y pum mlynedd nesaf."
 

Mae’r protestiadau hyn yn rhan o'n hymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’. Mae deiseb gyfredol yr ymgyrch ar wefan sydd bellach â thros 5,300 o lofnodion, sy’n golygu y cynhelir dadl yn siambr y Senedd ar y mater yn fuan.