Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni fod Cymwysterau Cymru yn “cyfaddef eu bod yn bwriadu cadw ac ail-frandio cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith” er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno un continwwm o ddysgu’r Gymraeg.
Dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru, wrth siarad gyda Golwg 360 am y cymhwyster newydd “y gellid ei ystyried fel Cymraeg Ail Iaith ag enw arall”, gan ychwanegu:
“Ar ôl ystyried y syniad yn ofalus, daethom i’r casgliad na fyddai’n bosibl ar hyn o bryd inni gynllunio un cymhwyster TGAU, neu unrhyw gymhwyster arall, a allai asesu pob dysgwr ym mhob cyd-destun mewn modd teg a dibynadwy . . . Rydym yn parhau i fod yn fodlon ystyried y posibilrwydd o gyflwyno un cymhwyster TGAU Cymraeg yn y dyfodol.”
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol:
“Nid yw safbwynt Cymwysterau Cymru yn gwneud unrhyw synnwyr: ar yr un llaw, maen nhw’n gwrthod hyd yn oed cynnwys yr opsiwn o gyflwyno un cymhwyster Cymraeg i bawb fel rhan o’u hymgynghoriad, gan fynnu y byddai eu cynlluniau newydd ar gyfer TGAU Cymraeg yn drawsnewidiol, tra ar y llaw arall maen nhw nawr yn cyfaddef mae eu bwriad, i bob pwrpas, yw cadw ac ail-frandio cymhwyster eilradd Cymraeg ail-iaith. Mae hyn yn dangos eu bod yn bwriadu parhau i amddifadu 80% o blant Cymru o’r rhodd o’r gallu i siarad Cymraeg er eu bod bellach yn derbyn ein dadl y byddai eu cynlluniau yn golygu parhad Cymraeg ail-iaith yn ein hysgolion.”
Ychwanegodd:
“Mae Cymwysterau Cymru’n mynd ymlaen i ddweud y bydden nhw o bosib yn ystyried cyflwyno un cymhwyster Cymraeg rhywbryd yn y dyfodol, ond nad nawr, yn eu barn nhw, yw’r amser cywir i wneud hynny - ond nid ydyn nhw wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth addysgol yn awgrymu na ellir gwneud hyn nawr, gan yn hytrach gynnig ddim byd mwy na geiriau gwag.
“Os ydyn ni o ddifri am gyrraedd miliwn o siaradwyr a sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu potensial ac yn siarad ein hiaith genedlaethol, rhaid cael gwared ar Gymraeg ail iaith a sefydlu un llwybr dysgu go iawn – un continwwm, un cymhwyster a'r un cyfle i bawb.”
Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddyfodol cymwysterau TGAU yng Nghymru i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd. Ymhlith eu cynigion y mae “cynnig i gael gwared â TGAU Cymraeg Ail Iaith a chreu cymhwyster TGAU newydd, mwy o faint wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg”.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben yfory, (Dydd Gwener, 16 Ebrill). Mae modd i bobl ddysgu mwy ac anfon ymateb yn gwrthwynebu’r cynlluniau trwy glicio yma.