Mae Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi cymeradwyo'r ffaith bod Cyngor Ceredigion wedi pleidleisio dros gadw amod i fynnu asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau penodol, gan alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i roi canllawiau cliriach.
Cyhoeddwyd deddf cynllunio newydd yn ddiweddar a sefydlodd y Gymraeg fel ystyriaeth statudol, ond nid yw'r Llywodraeth wedi cyhoeddi rheoliadau sy'n esbonio sut dylid gweithredu'r ddeddf newydd.
Yn y llythyr mae Hywel Griffiths, cadeirydd y mudiad yng Ngheredigion yn nodi:
“Mae'r ffaith bod Cabinet a Chyngor llawn Ceredigion wedi cytuno i gadw'r polisi yn dystiolaeth, o lawr gwlad, o bwysigrwydd asesu effaith datblygiad ar y Gymraeg a chymunedau yn lleol....mae'r Cyngor Sir yn cael ei roi mewn sefyllfa ble gallai wynebu costau cyfreithiol petai rhywun yn herio'r angen am asesiad effaith iaith, gan fod polisi cenedlaethol TAN20 yn dweud nad oes angen asesu effaith datblygiadau [penodol] ar y Gymraeg.
“Credwn felly bod angen i'r Llywodraeth ryddhau canllawiau newydd er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol yn sgil y newidiadau cyfreithiol sy'n dod i rym drwy'r Ddeddf Cynllunio ddiweddar. Allwn ni ddim parhau gyda'r ansicrwydd sy'n dechrau datblygu ar hyn o bryd.”
Bydd Polisi DM01, sydd yn aros yr un peth yn sgil y penderfyniad, yn golygu bod angen asesu effaith iaith datlygiadau penodol. Mae hynny yn groes i gyngor technegol cenedlaethol ar gynllunio – TAN20 – ac mae swyddogion y cyngor wedi rhybuddio nad oes sicrwydd bod penderfyniad cyngor i gadw at y polisi yn gyfreithlon.
Ychwanegodd Hywel Griffiths:
“Petai'r Llywodraeth yn rhoi arweiniad clir ar y Gymraeg ym maes cynllunio yn y lle cyntaf, drwy gynnwys hynny yn y Bil Cynllunio diweddar, fyddai'r Cyngor ddim yn gorfod bod mewn sefyllfa ble gallen nhw wynebu costau cyfreithiol o gael eu herio ar fater asesiadau effaith iaith.”
Mae'r llythyron gan Gymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru i'w gweld yma