02/07/2017 - 14:30
Addysg i bawb? Trafod heriau i'r Gymraeg yn y brifddinas.
2:30pm, dydd Sul, 2 Gorffennaf
Yurt 'Byw yn y Ddinas', Maes Tafwyl, Caerdydd
Yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd yn galw ar y cyngor i agor deg ysgol gynradd Gymraeg erbyn 2022, bydd y grŵp yn cynnal sgwrs yn trafod yr hyn sy'n atal cynnydd cyflymach ym myd addysg cynradd Caerdydd.
Siaradwyr:
Ceri McEvoy (Rhieni dros Addysg Gymraeg)
Owain Rhys (Cadeirydd, Llywodraethwyr Nant Caerau)
Huw Williams (Ymgyrch TAG)
Jo Beavan Matcher (Ymgyrch TAG)
Cadeirydd: Mabli Siriol (Cymdeithas)