AGOR LLYFR WELSH NOT 21ain ganrif

25/05/2015 - 13:30

Mae'r Welsh Not yn dal yn fyw ac yn iach ! Yn lle cosbi disgyblion am siarad Cymraeg yn yr ysgol fel y gwnaeth Welsh Not yr 19eg ganrif, y mae'r Welsh Not newydd yn amddifadu mwyafrif disgyblion Cymru o'r sgil i fedru cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg. Yn aml iawn caiff disgyblion o gefndiroedd tlotaf eu rhoi tan anfantais bellach yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

 Dyw hi ddim yn deg ac mae cyfle cael gwared a syniad dilornus "Cymraeg Ail Iaith" a sicrhau fod pawb yn gallu cyfathrebu'n Gymraeg trwy'r cwricwlwm newydd

Fel rhan o'r dystiolaeth i'r llywodraeth am yr angen hwn, byddwn yn gwahodd pawb i gyfrannu at "LLYFR WN21" (Llyfr Welsh Not 21ain ganrif) yn ein huned ar faes yr Eisteddfod. Gwahoddwn chi i gyfrannu dalen fach o dystiolaeth i'r llyfr os yw'r drefn adysg wedi amddifadu chi neu rai o'ch cydnabod o'r sgil i gyfathrebu'n Gymraeg, neu wedi eich rhwystro rhag cael ysgol Gymraeg yn eich cymuned, neu addysg feithrin Gymraeg, neu addysg bellach neu Gymraeg neu hyfforddiant yn y gweithle trwy gyfrwng y Gymraeg. Gawn ni gasglu'r dystiolaeth i gefnogi'r galwad am ddatblygiad mawr yn y cwricwlwm

DEWCH FELLY ATOM YN UNED Y GYMDEITHAS AM 1.30pm Llun 25Mai ar gyfer

"AGOR LLYFR WN21"

* Agorir Llyfr WN21 gan westai arbennig, a byddynt yn dweud gair ac yn gwneud y cyfraniad cyntaf yn y llyfr
* Dangoswn o gyfraniadau ffilm gan bobl ledled Cymru
* Cyfle gan bawb i gyfrannu