Sefydlwyd y Gymdeithas yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais ddydd Sadwrn Awst y 4ydd 1962 fel ymateb i her a rhybudd a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn gan Saunders Lewis y byddai yr iaith Gymraeg yn marw cyn diwedd yr ugeinfed ganrif oni fyddid yn mabwysiadu dulliau chwyldroadol.
Byddwn yn dadorchuddio plac i gofio'r achlysur a thalu teyrnged i'r bobl hynny wnaeth sefydlu'r Gymdeithas.
Rydym wedi derbyn £500 o gyfraniad gan Gyngor Tref Pontarddulais ond yn awyddus i dderbyn unrhyw gyfraniadau pellach tuag at gost y plac. Mae modd cyfrannu yma: http://cymdeithas.org/cyfraniadatycofio neu gysylltu gyda'r phrif swyddfa Cymdeithas yr Iaith - 01970 624501
Ble? Cyngor Tref Pontarddulais 45, Stryd St Teilo, Pontarddulais, Abertawe, SA4 8SY
Pryd? 11yb, Dydd Sadwrn, 9fed Mawrth
Pwy? Siaradwyr: Cyng. Eifion Davies, Robin Farrar, Gareth Miles, Angharad Tomos