Croesawu Osian - Merthyr

12/11/2021 - 17:00
Am 5.00, pnawn Gwener, 12 Tachwedd, ymunwch ag Emyr Humphreys a Jamie Bevan i groesawu Osian a'i gyd-deithwyr gyda phaned cynnes a chacen ym Maes Parcio Soar, Merthyr Tudful (CF47 8UB).
 
Mae Osian Jones yn seiclo o Gaernarfon i Gaerdydd fel rhan o'r ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth er mwyn cyflwyno llythyr i Mark Drakeford wedi'i gefnogi gan amryw o gynghorau a chynghorwyr yn galw ar y Prif Weinidog i weithredu’n syth i atal colli rhagor o stoc at fod yn ail gartrefi ac yn fusnesau gwyliau.
 
Dewch i ddangos eich cefnogaeth ac os hoffech gyfrannu at yr ymgyrch, mae croeso i chi wneud yma.