Taith gerdded (tua awr) o amgylch y dre' i ddysgu mwy am hanes enwau'r strydoedd
Byddwn yn gorffen gyda phaned a sgwrs mewn caffi lleol.
Dyma gyfle arbennig i ymarfer eich Cymraeg gyda siaradwyr hen a newydd a chyfle i ddysgu mwy am y lle yr ydych yn byw.
Cyfarfod am 10.30 ger Cloc y Dre. Gwerthfawrogir gwisgo mwgwd wrth ddilyn yr arweinydd.
Dewch yn llu – yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn siaradwyr newydd!
Bydd cwis dros Zoom yn y nos (7.00) – croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel tîm.
Manylion pellach (ac i gael dolen Zoom i'r cwis): post@cymdeithas.cymru
Noder: peidiwch â mynychu, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.
Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.