25/09/2021 - 12:00
Cerdded a chlonc
Cerdded a chlonc o gwmpas Port Meadow hyfryd rhwng y dref a’r Afon Tafwys gyda chriw dysgwyr SaySomethingInWelsh.
Cyfarfod 12:00 gyferbyn â fynedfa’r Orsaf Reilffordd ger cerflun y tarw.
Manylion pellach: john.williams973@ntlworld.com
Bydd cwis dros Zoom yn y nos (7.00) – croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel tîm. I gael dolen Zoom ar gyfer y cwis, ebostiwch: post@cymdeithas.cymru
Noder: peidiwch â mynychu, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.
Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.