29/04/2014 - 19:00
Gydag Eisteddfod Genedlaethol 2015 ym Meifod ar y gorwel, a bod digon angen ei wneud yn y sir, mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld cyfle i sbarduno gweithgarwch yn ardal yr Eisteddfod ac ardal Maldwyn.
Rydyn ni'n edrych ar leoliadau ar gyfer adloniant wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol sydd yn gyffrous yn ei hunan, rydyn ni hefyd wedi dechrau edrych ar gynllunio yn yr ardal – mae'r Cyngor Sir yn edrych ar y Cynllun Datblygu Lleol ar hyn o bryd a Chymdeithas yr Iaith newydd ryddhau Bil Cynllunio (mwy o wybodaeth: www.cymdeithas.org/cynllunio).
Mae pryderon wedi eu codi am addysg Gymraeg yn y sir hefyd felly mae digon i'w drafod.
Eisiau gwybod mwy, neu eisiau codi unrhyw beth arall? Dere i Glwb Rygbi Meifod am 7pm nos Fawrth y 29ain o Ebrill.
I drefnu i rannu ceir o rannau eraill o Bowys neu am fwy o wybodaeth cysyllta gyda Bethan Williams: 01970 624501 neu bethan@cymdeithas.org