10.30, dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr
Y Pengwern, Llan Ffestiniog (LL41 4PB)
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion, gyda gwahanol gyfrifoldebau, i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma: http://cymdeithas.cymru/y-senedd
Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd cyfarfod mis Rhagfyr a bydd yn canolbwyntio ar agweddau gweinyddol o waith y Gymdeithas.
Am 3.30, bydd sgwrs am ymgyrchu dros heddwch, ac yna byddwn yn dathlu'r Nadolig gyda'n gilydd dros ginio yn y Pengwern (5.30). Croeso mawr i chi ymuno â ni – cysylltwch am wybodaeth bellach.
Noder hefyd:
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Os hoffech fynychu cyfarfod, cysylltwch i weld a oes rhywun arall yn dod o'r un cyfeiriad â chi er mwyn i chi rannu car.
-
Trefnir cinio syml yn ystod cyfarfodydd y Senedd – croesewir cyfraniadau yn ôl gallu'r unigolyn i dalu.