Cyflwyno Adduned "Dwi eisiau byw yn Gymraeg" Caerfyrddin

16/03/2013 - 10:30

Cyflwyno Adduned "Dwi eisiau byw yn Gymraeg" Caerfyrddin

Dewch i ymuno a Heledd Cynwal (Darlledwraig), Meinir Jones (Ffermio) a Brian Walters (Undeb Amaethwyr Cymru) i gynrychioli'r 1,500+ o bobl Sir Gâr sydd wedi llofnodi adduned "Dwi eisiau byw yn Gymraeg". Byddwn yn cyflwyno'r rhestr o addunedwyr i Kevin Madge (Arweinydd Cyngor Sir Gâr) Chris Burns (Prif Weithredwr Cynhorthwyol Cyngor Sir Gâr) a Siân Thomas (Cadeirydd Cyngor Sir Gâr).

Byddwn yn diweddaru manylion y digwyddiad ar dudalen facebook y digwyddiad - yma

10.30am Dydd Sadwrn 16eg o Fawrth
Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Ydy hi'n bosibl byw yn Gymraeg yng Nghaerfyrddin?
Ar ol datgan ein bwriad i fyw yn Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin byddwn yn mynd ymlaen i gynnal arolwg o nifer o fusnesau'r dref yn syth wedi cyflwyno'r Adduned, ac yn cwrdd eto yn nharafan y Glyndwr ar Stryd y Frenhines am 12 i adrodd nol a gweld sut gallwn ni barhau i bwyso ar y Cyngor Sir.

Mwy o wybodaeth gan Bethan - 01559 384378 / bethan@cymdeithas.org