Ymgasglu yn Uned Cymdeithas yr Iaith,
Maes Eisteddfod yr Urdd
DEWCH GYDA NI O UNED Y GYMDEITHAS I GYFLWYNO "LLYFR WN21" I UNED Y LLYWODRAETH AR Y MAES fel rhan o'n galwad am sicrhau fod y cwricwlwm newydd yn rhoi i bob disgybl y sgil i fedru cyfathrebu a gweithio'r Gymraeg
Siaradwr gwadd - Keith Davies AC (Cadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol y Gymraeg, Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Trwy'r wythnos byddwn ni wedi casglu tystiolaeth yn "Llyfr WN21" Welsh Not yr 21ain ganrif gan wahodd pawb i gyfrannu dalen fach o dystiolaeth i'r llyfr os yw'r drefn adysg wedi amddifadu chi neu rai o'ch cydnabod o'r sgil i gyfathrebu'n Gymraeg, neu wedi eich rhwystro rhag cael ysgol Gymraeg yn eich cymuned, neu addysg feithrin Gymraeg, neu addysg bellach neu Gymraeg neu hyfforddiant yn y gweithle trwy gyfrwng y Gymraeg. Gawn ni gasglu'r dystiolaeth i gefnogi'r galwad am ddatblygiad mawr yn y cwricwlwm a'i gyflwyno i'r llywodraeth ar ddiwedd yr wythnos.
Mae'r Welsh Not yn dal yn fyw ac yn iach ! Yn lle cosbi disgyblion am siarad Cymraeg yn yr ysgol fel y gwnaeth Welsh Not yr 19eg ganrif, y mae'r Welsh Not newydd yn amddifadu mwyafrif disgyblion Cymru o'r sgil i fedru cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg. Yn aml iawn caiff disgyblion o gefndiroedd tlotaf eu rhoi tan anfantais bellach yn ddiwylliannol ac yn economaidd.
Dyw hi ddim yn deg ac mae cyfle cael gwared a syniad dilornus "Cymraeg Ail Iaith" a sicrhau fod pawb yn gallu cyfathrebu'n Gymraeg trwy'r cwricwlwm newydd