Llyfrgell Caerfyrddin
Sut mae'r Farchnad a Datblygiadau Tai'n effeithio ar eich cymuned chi ?
Dewch â'ch hanes a thystiolaeth i gyfarfod cyhoeddus
Tynged yr Iaith Sir Gâr - Cynllunio Dyfodol i'n Cymunedau Cymraeg
Mae Cynllun Datblygu Lleol Sir Gâr ar y naill law yn caniatau datblygiadau enfawr o dai sy'n newid ein cymunedau Cymraeg, a'r farchnad dai ar y llaw arall yn golygu fod llawer o'r stoc tai presennol cael ei brynu gan bobl ddi-Gymraeg. O ganlyniad mae'n cymunedau Cymraeg yn dioddef.
Bydd Adolygiad Sylweddol o'r Cynllun Datblygu Lleol yn ystod 2018, ychydig dros flwyddyn i ffwrdd. Mae blwyddyn gyda ni i gasglu tystiolaeth i sicrhau fod yr adolygiad yn cynllunio dyfodol newydd i'n cymunedau Cymraeg.
Beth yw'ch profiad chi o effaith y farchnad dai?
Pa newid sydd wedi bod i'ch cymuned chi oherwydd y farchnad a datblygiadau tai?
Dewch â gwybodaeth i'r fforwm cyhoeddus, ac anfonwch wybodaeth ymlaen llaw at bethan@cymdeithas.cymru
Mae holiadur am ddatbygiadau tai gyda ni i'w lenwi. Pwyswch yma neu cysylltwch am gopi papur
Yn bresennol bydd
Llinos Quelch – Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin
Owain Enoch - Swyddog Blaen Gynllunio Cynllun Datblygu Lleol
Alun Lenny – Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio y Cyngor
Linda Evans – Aelod y Bwrdd Gweithredol gyda chyfrifoldeb dros dai
Mair Stephens – Cadeirydd Panel Ymgynghorol y Gymraeg
Bydd Beti George yn agor y cyfarfod a Calum Higgins a Cefin Campbell ar ran Panel Ymgynghorol y Gymraeg yn arwain grwpiau trafod
Mwy o wybodaeth: bethan@cymdeithas.cymru