Cynllunio a’r Gymraeg: Y Ffordd Ymlaen

01/12/2014 - 07:00

 

‘Cynllunio a’r Gymraeg: Y Ffordd Ymlaen’ – Ysgoldy Canolfan Uwchgwyrfai, Clynnog, Rhagfyr 1af.

 

Rydym yn anfon atoch mewn perthynas â Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, a Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru. Fel y gwyddoch, mae’n rhaid sicrhau bod cynllunio gwlad a thref yn diogelu ac atgyfnerthu’r Gymraeg yn genedlaethol, yn sirol ac yn gymunedol, ac ers dros flwyddyn, mae’r drafodaeth gyhoeddus yng Ngwynedd yn benodol wedi codi ymwybyddiaeth gyffredinol o bwysigrwydd allweddol y mater hwn i ddyfodol ein hiaith. Hefyd, mae’r drafodaeth ynglŷn â chynnwys y Bil Cynllunio yr un mor bwysig, a’r angen i ddwyn pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i roi statws cynllunio llawn i’r Gymraeg trwy ei gwneud yn Ystyriaeth Gynllunio Berthnasol.

 

Mae pryder wedi ei fynegi ynghylch Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn am ddau reswm yn bennaf. Y rheswm cyntaf yw’r ffaith nad yw niferoedd y tai yn seiliedig ar y gofyn cymunedol ond yn hytrach ar dargedau a bennwyd trwy amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn unol â phatrymau hanesyddol sy’n cynnwys mewnlifiad. A’r ail reswm yw’r ffaith bod gwendidau yn yr Asesiad Effaith Ieithyddol a amlygwyd yn yr adroddiad ar yr Hoff Strategaeth. Nid oedd yr asesiad yn un annibynnol, ac mae casgliadau’r adroddiad yn amwys, ac yn ddi-sail oherwydd diffyg tystiolaeth feintiol.

 

Mae cam nesaf y broses o greu’r Cynllun Datblygu Lleol ar waith, sef llunio’r Cynllun Adnau a fydd yn dangos y tiroedd a ddynodwyd ar gyfer datblygiadau tai posib yn y gwahanol gymunedau. Bydd Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn yn cyflwyno copi drafft i Gabinet Cyngor Gwynedd fis Rhagfyr.

 

Yn ôl amserlen y Cyngor, cynhelir ymgynghoriad ar y drafft yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Er mwyn inni fedru ymateb yn effeithiol yn ein cymunedau yn ogystal ag yn sirol i gynnwys y ddogfen ymgynghorol, bydd angen ffurfio grwpiau cymunedol i drefnu gwrthwynebiad i unrhyw ddatblygiadau y rhagdybir eu bod yn fygythiad i’r iaith.

 

Felly, gwahoddiad yw’r llythyr hwn i chi ddod i gyfarfod yn ysgoldy Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nglynnog nos Llun, Rhagfyr 1af am 7 o’r gloch. Bydd cyfle i drafod a chodi cwestiynau, ond prif ddiben y cyfarfod fydd llunio rhaglen i sefydlu grwpiau cymunedol i ymateb i’r Cynllun Adnau.