Diwrnod Digidol Cell Abertawe a Chastell-nedd

21/07/2019 - 13:00
Dewch i ymuno â Chell Abertawe a Chastell-nedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar eu diwrnod digidol cyntaf.
Bydd y Gell yn cynnig hyfforddiant ac annog mynychwyr i:
  • Ysgrifennu a golygu erthyglau ar Wicipedia Cymraeg
  • Cyfieithu meddalwedd
  • Defnyddio a chyfrannu at feddalwedd adnabod llais Mozilla Common Voice
  • Dysgu defnyddio gwasanaethau Cymraeg ar-lein
  • Cyhoeddi pyst blog ac erthyglau eraill yn Gymraeg
  • Llawer mwy
Cynhelir yn Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe am 13:00 tan 15:00