Gigs Eisteddfod Wrecsam 2025

02/08/2025 ()

Eleni bydd wythnos gyfan o gigs gyda ni yn Saith Seren, tair noson arbennig yn Neuadd William Aston a noson Bragdy'r Beirdd yng Nghlwb Chwaraeon Brymbo. Mae'r holl docynnau ar werth yn ein siop arlein,  ac mae tocynnau Saith Seren a Bragdy'r Beirdd hefyd ar gael o Siop Siwan yn Tŷ Pawb a Saith Seren.

Gigs Saith Seren

(18 Stryd Caer, Wrecsam LL13 8BG)

Y Saith Seren yw'r ganolfan Gymraeg yng nghanol Wrecsam a sefydlwyd o ganlyniad i ymweliad diwethaf y Steddfod â'r dre. Dyma gartre' Cymdeithas yr Iaith am yr wythnos, a chanolfan werin yr ŵyl. Dowch i roi hwb i'r ganolfan Gymraeg hon; a chofiwch mai ond lle i 125 sydd.

Bydd y Saith Seren ar agor i bawb o amser cinio yymlaen, ond trwy docyn yn unig ar gyfer gigs 9yh-1yb.

Nos Sadwrn, 2 Awst  Parti 20mlwyddiant Gwibdaith Hen Fran gyda'r aelodau gwreiddiol
Gwibdaith Hen Fran
Mynadd
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Nos Sul, 3 Awst
Gwilym Bowen Rhys
Cass Meurig         
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Nos Lun, 4 Awst
Geraint Lovgreen
Andy Hickie
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Nos Fawrth, 5 Awst
Gai Toms
Paid Gofyn
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Nos Fercher, 6 Awst Noson Heddwch ar Ddydd Hiroshima
Moniars
Hen Fegin
Elan Parry
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Nos Iau, 7 Awst
Pedair
Cadi Glwys
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau
  
Nos Wener, 8 Awst  Noson Gomedi            
Hywel Pitts yn cyflwyno:
Dil Pierce
Dil Morgan
Fflur Pierce
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Nos Sadwrn, 9 Awst
Huw Aye Rebals
Yr Anghysur
£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Clwb Chwaraeon Brymbo

(LL11 5TG)

Nos Fawrth, 5 Awst (8.00-12.30)  Bragdy'r Beirdd: Helo Brymbo

Ifor ap Glyn yn cyflwyno noson o gerddi a chaneuon i ddathlu Wrecsam a'r Fro.

Bydd byrddau dull cabaret mewn stafell fawr foethus mewn canolfan a fu’n gartref i’r gweithwyr dur ers degawdau. Bydd prydau o fwyd ar gael a sawl cwrt sboncen a thenis os ydych am ddod yn gynnar ac yn gêm!

Mae Clwb Chwaraeon Brymbo rhyw 2 filltir i'r gogledd o ganol Wrecsam. Mae bysiau gwasanaeth rheolaidd rhwng y dre a Brymbo, a byddwn ni’n trefnu bysiau yn ôl at y Maes Carafanau ar ddiwedd y noson. Mae maes parcio mawr ar y safle.

£15 – cliciwch yma i archebu tocynnau

Neuadd William Aston

(https://williamastonwrexham.com/cy/visit/access)

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio gyda Theatr Clwyd i gyflwyno tair noson fawr yn y neuadd hon sy'n dal dros 800 gyda bar a stondinau yn y cyntedd. Prynwch docynnau rwan i ddewis  y seddau gorau yn y neuadd. Mae mil o lefydd parcio ar y safle hwn o Brifysgol Wrecsam, a bydd bws ar ddiwedd y nosweithiau'n mynd yn ôl at y Maes Carafanau.

Nos Iau, 7 Awst  Noson y Wal Goch 

Tara Bandito
Yws Gwynedd
Candelas
Celavi

Bydd Lili Jones yn cyflwyno, a chyfle hel llofnodion y selebs pêl-droed fydd yn y noson.

£19 – cliciwch yma i archebu tocynnau (neu yma)

Nos Wener, 8 Awst  Gruff Rhys a’r Band

Gruff Rhys a'r Band
Griff Lynch a'r Band
Ynys
Wrkhouse

£24 – cliciwch yma i archebu tocynnau (neu yma)

Nos Sadwrn, 9 Awst  Parti Cloi yr Eisteddfod 

Bob Delyn
MR
Blodau Papur

£19 – cliciwch yma i archebu tocynnau (neu yma)