Gweithgor Dathlu'r 60

14/06/2022 - 18:00

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn dathlu ei chwedegmlwyddiant ym mis Awst 2022.

Cychwynnodd y flwyddyn dathlu yn cychwyn ym mis Chwefror 2022 (60 mlynedd ar ôl darlith Tynged yr Iaith) ac mae'n para nes Chwefror 2023 – 60 mlynedd ers protest Pont Trefechan. Gweithgor Dathlu'r 60 sy'n cydlynu'r holl ddigwyddiadau a gynhelir i nodi'r pen-blwydd.

Os hoffech fod yn rhan o'r gwaith hwn, mae croeso mawr i chi ymuno â'r gweithgor. Ebostiwch post@cymdeithas.cymru.

Bydd y cyfarfod nesaf dros Zoom am 6.00, nos Fawrth, 13 Mehefin 2022.