16/05/2024 - 18:00
Cyfarfod dros Zoom, 6.00, nos Iau, 16 Mai
Dyma'r gweithgor sydd wedi bod yn trafod yr amryw ralïau a gweithgarwch arall dros yr ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.
Prif ffocws y cyfarfod heno fydd trafod y Rali Nid yw Cymru ar Werth sydd i'w chynnal ym Machynlleth ar ddydd Sadwrn, 14 Medi, ynghyd â'r camau nesaf o ran ein galwad "Deddf Eiddo – Dim Llai". Yn arwain at Eisteddfod yr Urdd byddwn ni'n casglu enwau ar alwad "Deddf Eiddo - Dim Llai" - sut gallwn ni sicrhau miloedd o enwau? Dewch i drafod hynny, a chynlluniau ar gyfer y rali nesaf.
Cysylltwch os hoffech gynorthwyo â'r gwaith. Diolch!