11/12/2023 - 19:00
Dewch i fod yn rhan o ymgyrchoedd yng Ngwynedd a Môn!
Bydd rhanbarth Gwynedd-Môn yn cynnal cyfarfod hybrid am 7.00, nos Lun, 11 Rhagfyr yn y Lle Arall, Caernarfon (gyferbyn â Palas Print) gyda chyfle hefyd i ymuno ar-lein hefyd.
Mae pethau'n dechrau prysuro unwaith eto yn y rhanbarth felly dewch draw i glywed beth yw beth. Bydd cyfle hefyd i godi unrhyw faterion sy'n eich poeni chi.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru.