12/10/2019 - 14:00
2pm, dydd Sadwrn, 12fed Hydref
Canolfan Morlan, Aberystwyth
Cynghorydd Loveday Jenkin (Meybon Kernow), Sel Jones (Cymdeithas), Heddyr Gregory (Shelter Cymru) a Màrtainn Mac a'Bhàillidh (Misneachd)
Mae mwy a mwy o bobl yn wynebu anhawsterau gwneud cartref ac aros yn eu hardal leol. Yn ei dro, mae hynny’n tanseilio bywyd cymunedol, ein trefi a phentrefi a’r Gymraeg. Mae angen cyfundrefn eiddo arnon ni sy’n sicrhau bod prisiau tai yn adlewyrchu’r hyn mae pobl leol yn gallu fforddio. Beth allwn ni ddysgu o wledydd eraill am sut i ymdrin â’r broblem? Dewch i ddatgan yn glir ‘Nid yw Cymru ar Werth!’
cymdeithas.cymru
#cyfcyff