Ocsiwn y Dathlu

10/08/2023 - 17:30

5.30, dydd Iau, 10 Awst 2023

Pabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Yn dilyn ymlaen o flwyddyn dathlu'r Gymdeithas yn 60 oed yr ydym wedi mynd ati i gasglu amrywiaeth o eitemau i'w gwerthu mewn ocsiwn arbennig – y mwyafrif gyda chysylltiad â gweithgarwch y Gymdeithas dros y 60 mlynedd diwethaf. 

Gwybodaeth bellach i ddilyn ond, ymysg yr eitemau y mae darn o waith celf gan Iwan Bala 'Nid yw Cymru ar Werth', llun gan Angharad Tomos ac un o ganeuon Dafydd Iwan yn ei lawysgrifen.

Bydd Dewi Pws a Danny Grehan yn gweithredu fel ocisynwyr.

Mwy o wybodaeth i ddilyn.