Rali Tynged yr Iaith - Nid yw Cymru ar Werth

19/02/2022 - 14:00
Ar 60 mlwyddiant darlledu araith Saunders Lewis Tynged yr Iaith, rydym yn galw pobl o gymunedau ledled y wlad ynghyd at Rali Tynged yr Iaith yn Aberystwyth fel cam nesaf yr ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.
 
Byddwn yn dod ynghyd i bwyso ar y Llywodraeth am ymrwymiad at Ddeddf Eiddo gyflawn a fydd yn rhoi i'n cymunedau reolaeth ar eu stoc tai a'u dyfodol. 
 
Mae pwysau'n gweithio a diolchwn fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau i reoli ail gartrefi, ond rhaid dal ati i bwyso er mwyn sicrhau na fydd cyfaddawdu yn wyneb gwrthwynebiad y grymoedd ariannog. 
 
  • Ymgynnull: ger Bont Trefechan (anerchiad gan Heledd Gwyndaf) erbyn 2 o'r gloch
  • Gorymdaith: trwy'r dref at swyddfeydd Llywodraeth Cymru (dewch ag enw'ch cymuned!)
  • Rali: gyda Mabli Siriol, Bryn Fôn, Mared Edwards (Llywydd UMCA), Tecwyn Ifan a Gwenno Morris (merch leol sy'n ceisio prynu tŷ)
Bydd noson o gan yn yr Hen Lew Du (Heol y Bont, SY23 1PZ) yn dilyn - Tecwyn Ifan am 5.00 a Gwilym Bowen Rhys am 7.00. Bwyd ar gael (cynigion arbennig!). Dewch i gefnogi. Mynediad am ddim ond croesewir
cyfraniadau.
 
PEIDIWCH A MYNYCHU OS YDYCH YN DANGOS UNRHYW SYMPTOMAU COFID NEU WEDI EICH CYNGHORI I HUNAN YNYSU.