Sefyll gyda'r 80%: Rali Addysg Gymraeg i Bawb

15/02/2025 - 14:00

Byddwn yn cynnal rali ar risiau’r Senedd ar ddydd Sadwrn, 15 Chwefror 2025 i gefnogi’r 80% o’n plant sy’n gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus.

Mae cyfle gan y Llywodraeth trwy Fil y Gymraeg ac Addysg i roi addyg Gymraeg i bob un yng Nghymru, ond ar hyn o bryd bydd yn parhau i amddifadu'r mwyafrif o dderbyn addysg Gymraeg.

Dewch felly i'r rali hon er mwyn dangos bod pobl Cymru yn cyd-sefyll gyda'r 80% sy'n cael eu hamddifadu o'r Gymraeg.

Yymysg y siaradwyr bydd:

  • Mabli Siriol, Cymdeithas yr Iaith
  • Hammad Rind, bardd a llenor
  • Catrin Edith, Is-lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mwy o wybodaeth: post@cymdeithas.cymru