Rali FAWR Nid yw Cymru ar Werth - Caernarfon

08/05/2023 - 11:30

 

Cyrraedd

Ar gyfer pobl yr ardaloedd cyfagos, mae bysus yn rhedeg - yn groes i rai adroddiadau. E.e. mae gwasanaeth bob 30 munud o Fangor a 5 bws yn y bore o Stinog>Port>Penygroes.

Y Maes, Caernarfon

  • Bydd y safle'n barod erbyn 11 a cherddoriaeth fyw o 11.30 ymlaen gyda'r Rali ei hun am 1pm.
  • Mae'r rali i'w chynnal yn rhan ucha'r Maes o flaen y grisiau wrth y Post a'r Banciau, a bydd rhwystrau i ddynodi'r safle diogel. Bydd pabell gyda nwyddau Cymdeithas yr Iaith ar werth a chyfle i ymaelodi.
  • Anogwn bawb, am resymau diogelwch, i ddod at y safle dynodedig - bydd stiwardiaid i gyfeirio a chymorthwyo

Y Rali

  • Bydd Angharad Tomos a Robat Idris yn ein harwain drwy'r adloninat a'r siaradwyr, gan ddechrau â Maes Parcio, Gertaint Lovgreen a Twmffat o 11.30
  • Bydd Kariad y Clown yno i ddifyrru'r plant o 11.30 hefyd
  • Am 1pm bydd cyfle i glywed gan Mared Llywelyn, Mabon ap Gwynfor, Dylan Lewis-Rowlands, Bryn Fôn, Osian Jones
  • Os byddwch chi'n tynnu llun yn y rali cofiwch dagio @Cymdeithas a defnyddio'r hashnod #nidywcymruarwerth.

Mae costau sylweddol ynghlwm wrth y rali - byddwch garedig wrth y rhai sydd efo bwcedi casgliad, a bydd peiriannau cardiau credyd symudol hefyd.
Cyfrannwch at waith y Gymdeithas yma

Dyma yw ein cyfle i gael Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai, ond fydd hyn ddim yn digwydd heblaw am fod pawb yn codi llais.