10/09/2024 - 19:30
7.30, nos Fawrth, 10 Medi
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth (SY23 1JH) ac ar-lein
Dewch i gwrdd ag aelodau eraill y rhanbarth ac i drafod materion sydd yn bwysig ac yn berthnasol i'r ardal.
Yn y cyfarfod hwn, byddwn yn trafod ysgolion gwledig yn y sir, y Swyddfa Post ynghyd â materion lleol eraill.
Cyfarfod hybrid yw hwn felly mae modd i chi ymuno ar-lein os na allwch fynychu'r cyfarfod yn Aberystwyth. Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno, cysylltwch!