05/04/2013 - 12:30
Safiad pobl ifanc Sir Gar
Mae'r hyn mae'r Cyngor Sir yn ei benderfynu yn effeithio ar bobl ifanc ond am nad ydyn ni'n ddigon hen i bleidleisio does neb yn gofyn ein barn felly dydy'r mwyafrif o bobl ifanc heb gael unrhyw lais. Dym,a'n cyfle i newid hynny!
Dewch i Dafarn y Glyndwr, Stryd y Frenhines am 12.30 - bydd cyfle ddydd Gwener i bobl ifanc i roi eu galwad i'r Cyngor! ;)
Hefyd bydd:
*Sesiynau byw gan Castro a'r Banditos
*Arolwg barn pobl ifanc - er mwyn i'r Cyngor wybod yn union beth mae pobl ifanc eisiau
*Cyfle i greu ffansin