10.30, dydd Sadwrn, 1 Chwefror
Cyfarfod dros Zoom
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.
Cofiwch fod gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd cyfarfod mis Chwefror ac yn gyfle i ganolbwyntio ar faterion gweinyddol a materion aelodaeth, codi arian, ac ati.
Byddwn hefyd yn trafod materion brys eraill. Cysylltwch os am ddolen i ymuno â'r cyfarfod.