Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Ymgyrchoedd)

06/05/2023 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 6 Mai

Cyfarfod dros Zoom

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion, gyda gwahanol gyfrifoldebau, i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. 

Mae gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio). 

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ymgyrchoedd fydd y cyfarfod hwn ac yn gyfle arbennig i chi glywed am ymgyrchoedd y Gymdeithas.

Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yn ymuno. Ebostiwch am fanylion pellach neu i gael dolen Zoom.