Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Rhanbarthau)

08/06/2024 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 8 Mehefin

Tŷ Tawe, Abertawe

Y Senedd yw'r corff sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir yr amryw swyddogion gwirfoddol sydd ar y Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ranbarthau fydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar waith y rhanbarthau.

Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Mae swyddogion cyflogedig y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu trafnidiaeth gyda swyddogion eraill.     

  • Dylech chi gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.

  • Mae rhagor o fanylion am ein cyfarfodydd ac aelodaeth ein pwyllgorau yma.  

Rydym yn cynnal y cyfarfod yr un diwrnod â Gŵyl Tawe fydd yn digwydd yn Amgueddfa'r Glannau ac yn parhau tan rhyw 9,00 y nos felly beth am ddod i gyfarfod y Senedd ac yna pigio draw i fwynhau'r ŵyl wedyn! Bydd gan y Gymdeithas stondin yn yr ŵyl hefyd.