2 o'r gloch, dydd Sadwrn, 7fed Ionawr,
Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH
Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Trafodaeth Aberystwyth
Mae Llywodraeth Prydain yn cynnal adolygiad o S4C yn 2017. Yng nghyfarfod Cyngor Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bydd cyfle i leisio barn a chytuno ar bolisi’r mudiad ar gyfer yr adolygiad. Bydd y polisi, ymysg pethau eraill, yn mapio’r llwybr at ddatganoli darlledu a beth fydd rôl S4C fel darlledwr datganoledig.
A ddylai Awdurdod S4C droi yn “Gorfforaeth Darlledu” cyffredinol ar gyfer Cymru? A ddylai fod yn gyfrifol am ddarlledu ym mhob iaith? Ac ar bob platfform? A ddylai S4C neu gorff arall fod yn gyfrifol am ail a thrydedd sianel deledu a gorsafoedd radio Cymraeg?
Bydd croeso i unrhyw aelod o’r Gymdeithas ddod i’r digwyddiad, ond dim ond aelodau’r Cyngor (http://cymdeithas.cymru/y-senedd) sydd â’r hawl swyddogol i bleidleisio. Mae’r drafodaeth yn rhan o gyfarfod y Cyngor, pwyllgor rheoli’r Gymdeithas, sy’n dechrau am 10yb - croeso i chi ddod ar gyfer y cyfarfod cyfan neu dim ond trafodaeth y prynhawn - cysylltwch â post@cymdeithas.cymru am ragor o fanylion.
https://www.facebook.com/events/1203696576352439/
2 o'r gloch, brynhawn Sadwrn, 7fed Ionawr 2017
Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH