Sut i Gryfhau Mesur y Gymraeg - sesiwn drafod

Neuadd Pantycelyn, Prifysgol Aberystwyth

Yn dilyn lansio dogfen 'Cryfhau Hawliau i’r Gymraeg - drwy Fesur y Gymraeg' mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i glywed sylwadau.

Bydd Siân Howys, aelod o grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith yn esbonio'r ddogfen cyn arwain trafodaeth ac ateb cwestiynau.

Yn ogystal â'n cynorthwyo ni, mae adrannau yn y ddogfen am gynllunio gweithlu er mwyn cynnig gwasanaeth Gymraeg, defnyddio'r Gymraeg fel prif iaith ac ehangu mesur y Gymraeg. Bydd cyfle i glywed mwy am safbwynt Cymdeithas yr Iaith am hynny.

Mae'r ddogfen i'w gweld ar ein gwefan: http://cymdeithas.cymru/sites/default/files/CyIG%20Cryfhau%20Mesur%20A4(1).pdf neu cysylltwch am gopi papur.

Mae'r sesiwn yn agored, ond byddem yn gwerthfawrogi petai chi'n gallu rhoi gwybod o flaen llaw y byddwch chi'n dod.

Cysylltwch â ni: bethan@cymdeithas.cymru / 01970 624501