Trafodaeth Tafwyl: PRIFDDINAS BLE? Y GYMRAEG A CHYNLLUNIO YNG NGHAERDYDD

01/07/2018 - 11:30

PRIFDDINAS BLE? Y GYMRAEG A CHYNLLUNIO YNG NGHAERDYDD

Llun Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DG, a'r  

Cyngor wedi datgan ei fwriad i ddatblygu'r ddinas ymhellach. 

 

Ond pa le sydd i'r Gymraeg a chymunedau'r ddinas yn y cynlluniau hyn?  

Sut gallwn ymwrthod â boneddigeiddio? Ydy rhagor o swyddfeydd a  

fflatiau drud, di-enaid yn mynd i gyfrannu at ffyniant diwylliannau  

lleol hyfyw Cymreig a Chymraeg? A pha risg sydd i Gaerdydd efelychu  

Llundain, trwy dynnu'r holl fuddsoddiad a phobl ifanc i'r brifddinas? 

 

Dewch i drafod sut gallwn greu prifddinas gall Cymru oll fod yn falch  

ohoni. 

 

Cadeirydd : Mabli Jones 

Siaradwyr:

Dylan Foster Evans

Tamsin Davies

Cynghorydd Phil Bale

Ani Saunders

 

Cynhelir y drafodaeth yn y babell 'Byw yn y ddinas' am 11:30yb, fore dydd Sul, 1 o Orffennaf 

https://www.facebook.com/events/653362911685379/?notif_t=event_calendar_create&notif_id=1529422175778837

  •  
  •