13/06/2024 - 19:00
7yh, nos Iau, 13 Mehefin
Canolfan Glyndŵr, Machynlleth
Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth Machynlleth yn cael ei chynnal ar 14 Medi, ac yn gyfle i ymateb i gyhoeddi Papur Gwyn y Llywodraeth ar dai a chyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Mae'r gwaith o drefnu wedi dechrau! Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gyda'r gwaith, dewch draw i Ganolfan Glyndŵr! Gallwch helpu mewn pob math o ffyrdd - dewch draw i ddarganfod sut.
Yn ogystal â pharhau threfniadau'r rali bydd taflenni a phosteri ar gael hefyd, felly dewch i'w casglu.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â post@cymdeithas.cymru.