Achub Y Cymro

Annwyl Weinidog y Gymraeg a Phrif Weithredwr y Cyngor Llyfrau   

Ysgrifennaf atoch er mwyn gofyn i chi ystyried cynyddu'r grant ar gyfer Y Cymro, yr unig bapur newydd wythnosol Cymraeg.  Byddwch yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch parhad y papur yn sgil penderfyniad y cyhoeddwyr presennol i werthu'r busnes.  

Fel y gwyddoch, fel iaith leiafrifedig, mae cyhoeddiadau Cymraeg yn dibynnu ar gefnogaeth arian gyhoeddus gan fod tueddiadau'r farchnad rydd mor niweidiol i'r iaith.  Mae'r Cymro yn bapur o bwys hanesyddol eithriadol i'r Gymraeg gan iddo ddyddio yn ôl dros 150 o flynyddoedd. Yn ogystal, ac yn bwysicach, mae ei fodolaeth yn bwysig i ddefnydd, statws a gwelededd y Gymraeg: mae'n rhaid i'r iaith gael ei chyhoeddi mewn papurau newydd os yw hi i ffynnu. Gwyddom yn iawn fod darpariaeth ddigidol yn werthfawr iawn i'r Gymraeg, ond mae angen darpariaeth argraffedig yn ogystal, a hynny gan fwy nag un darparwr. Mae democratiaeth iach yn dibynnu ar sawl ffynhonnell newyddion.  

Credwn fod achos cryf dros gynyddu'n sylweddol y gefnogaeth ariannol i'r papur fel bod modd diwygio a buddsoddi i ddatblygu'r papur a'i wefan ymhellach, gan gydweithio gydag eraill lle bo'n bosibl.

Gofynnwn felly i chi gynnal adolygiad cyflym o'ch cefnogaeth i'r papur, gan gynnwys ystyried sut ellid defnyddio cydweithio rhwng partneriaid eraill er mwyn cryfhau a dyfnhau ei ddarpariaeth dros y blynyddoedd i ddod. 

Yn gywir, 

Carl Morris, 

Cadeirydd, Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith